MOSTYN Agored 21

logo MOSTYN Agored

MOSTYN Agored 21

Galwad am geisiadau - ymestynnwyd y dyddiad cau i 18 Mawrth 2019

 

Mae MOSTYN, Cymru DU yn falch o gyhoeddi'r alwad am geisiadau ar gyfer arddangosfa celf gyfoes MOSTYN Agored 21, i'w ddangos o Gorffennaf 2019.

Ers ei sefydlu ym 1989, mae MOSTYN Agored wedi meithrin a chyflwyno doniau artistiaid sefydledig ac egin artistiad yn rhyngwladol. Mae'r arddangosfa o’r gwaith celf dethol yn digwydd yn MOSTYN, a gwobr o £10,000 yn cael ei dyfarnu i artist unigol neu gywaith. Yn ogystal a hyn, caiff wobr o £1,000 i'w gyflwyno i 'Gwobr y Gynulleidfa', sef y rhai a dderbynir y nifer fwyaf o bleidleisiau gan ymwelwyr yn ystod yr arddangosfa. 

Newydd, ar gyfer MOSTYN Agored 21, dyfernir y Wobr Arddangosfa am arddangosfa yn MOSTYN i’r artist neu'r gydweithfa y mae'r dewiswyr yn teimlo y byddent yn elwa fwyaf ar y pwynt hwn yn eu gyrfa.

Detholwyr MOSTYN Agored 21 yw: Jennifer Higgie, Cyfarwyddwr Golygyddol, Frieze, Llundain; Katerina Gregos, Curadur Annibynnol, Brwsel; Hannah Conroy, Cyd-Gyfarwyddwr a Churadur, Kunstraum, Llundain; Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN. A chi, y gynulleidfa fydd yn ymweld â’r arddangosfa, ar gyfer 'Gwobr y Gynulleidfa'.

DYDDIADAU ALLWEDDOL A’R BROSES YMGEISIO

NODWCH: 
I gymryd rhan ym MOSTYN Agored 21 mae angen i bob artist gyflwyno ei gwaith ar-lein yma.

Er mwyn cystadlu, bydd angen cwblhau ffurflen a thalu'r ffi.

Mae'r cais yn broses un cam gyda thaliad ar y diwedd.

Darllenwch y Telerau ac Amodau yn ofalus cyn gyrru eich cais.

I gwblhau'r ffurflen bydd angen cyfrifiadur â chyswllt i'r rhyngrwyd, cyfeiriad e-bost dilys a lluniau digidol o'r gwaith neu ddolen at y gwaith fideo/sain.
 
Bydd hawl i gyflwyno hyd at 6 darn o waith, mewn unrhyw gyfrwng, ym mhob cais.
 
Bydd ffi na ellir ei ddychwelyd o £25 ar gyfer pob cais.
 
Pan fyddwch chi'n cyflwyno eich gwybodaeth bersonol ar-lein, rydych chi hefyd yn cytuno y bydd eich data yn cael ei storio yn unol â Pholisi Preifatrwydd MOSTYN.
 
Cyflwyniadau ar-lein yn agor: 22 Ionawr 2019
 
Dyddiad cau cyflwyniadau ar-lein: 4 Mawrth 2019  (ymestynnwyd y dyddiad cau i 18 Mawrth 2019)
 
Danfon gwaith a ddewiswyd: 3 - 5 Gorffennaf 2019
 
Dyddiadau'r Arddangosfa: 13 Gorffennaf - 27 Hydref 2019
 
Cyhoeddi enillydd gwobr MOSTYN Agored a’r Wobr Arddangosfa: 13 Gorffennaf 2019
 
Cyhoeddi Gwobr y Gynulleidfa: 21 Hydref 2019
 
Unrhyw gwestiynau? ebost: [email protected]