trwy garedigrwydd Elly Strigner
- Gweithdy
Sgiliau Digidol EDGE: Animeiddio Natur
Dysgwch sut i greu animeiddiad byr gyda'r artist Elly Strigner
14 Mai 2020, 9:00am to 29 Mai 2020, 5:00pm
Animeiddio Natur
Dysgu i ddefnyddio meddalwedd syml a thechnegau dylunio/gludlun, gydag artist Elly Strigner, i greu animeiddiad byr a chyfrannu at waith celf ddigidol newydd sbon (addas i oedolion a phlant 7+ oed)
Trwy wylio ffilm fer 'Sut i' Elly, byddwch yn dysgu sut i greu ac animeiddio llythrennau a geiriau ar thema Natur. Creu animeiddiad hyd at 30 eiliad o hyd ac yna anfonwch eich ffilmiau byr atom i gyfrannu at animeiddiad lliwgar cydweithredol yn seiliedig ar eiriau!
Byddech angen
- Ffôn smart neu dabled
- Ap/meddalwedd Stop Motion Studio (fersiwn am ddim neu daledig, does dim ots pa un)
- Bocs cardbord maint canolig/mawr
- Siswrn
- Papur, creonau, pensiliau
- Tac glas
- Unrhyw wrthrychau naturiol yr ydych yn eu hoffi (dail, blodau, conau pinwydd, plu)
- (Sicrhewch bod capsiynau YMLAEN am is-deitlau yn y Gymraeg)
Anfonnwch eich ceisiadau at [email protected] erbyn dydd Gwener 29 Mai i gyfrannu at animeiddiad 'Natur' a fydd yn cael ei arddangos ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol MOSTYN.