Athena Papadopoulos
Ffwr ffug, edau, stwffin, glud, llifyn gwallt, gorchudd, chwistrell enamel, paent puffy, gorchudd, gwifren, rhwyllen, deilen aur
Rhifyn o 6
Gan weithio â cherfluniau, paent, testun a sain, mae gwaith Athena Papadopoulos yn herio cynrychioliadau traddodiadol o’r corff, drwy greu ffurfiau hybrid gormodol, pydredig a ffiaidd sy’n hofran rhwng byd dychmygol a’r byd go iawn. Mae hi’n creu ei gwaith drwy gasglu deunyddiau, ac yna’n dod â nhw at ei gilydd ar ffurf collage.
Mae canfyddiadau deuaidd traddodiadol o ryw a rhywioldeb yn cael eu dadwreiddio ac maent yn amhenodol. Gwnaed y rhifyn cyfyngedig hwn yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa Cain and Abel Can't and Able ym MOSTYN Mawrth - Hydref 2020. Mae pob gwaith yn ymdoddi cyfeiriadau gwahanol a gymerwyd o'r gân 'Giraffe Jesus' â themâu eraill fel marwolaeth, galaru, bywyd a thwf sy'n atseinio trwy gydol ei gosodiad amlgyfrwng.
Rydym yn falch o gyflwyno cyfres o rifynnau cyfyngedig gan artistiaid enwog yn rhyngwladol. Mae MOSTYN yn elusen gofrestredig y DU a bydd yr elw o werthiant y rhifynnau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn rhaglen arddangos ac ymgysylltu'r oriel.
Am fanylion pellach am y rhifynnau gan yr artistiaid neu i brynu rhifyn, e-bostiwch: [email protected]