Diango Hernández
Lithograff gwreiddiol wedi’i argraffu â 2 garreg + lliw dwylo (glas) ar bapur Velin d’Arches 300gsm
69 x 100cm
30 ex. + 3 PP + 3 AP + 1 Archif wedi’u rhifo a’u llofnodi gan yr artist
Mae gwaith Diango Hernández yn cysylltu ei fywgraffiad a’i fagwraeth yn Cuba â geirfa esthetig sy’n anfarwoli ac yn drysu ei hiraeth am ei wlad enedigol a’i atgofion o fyw yno ac ymweld â hi. Mae cyfres ddiweddar o’i waith yn defnyddio tonnau fel motiff gweledol yn ailymddangos, sy’n esgor ar ddarluniau barddonol, bron yn rhamantaidd, o’i wlad enedigol, gan fod yn alegori ar gyfer gorffennol a phresennol gwleidyddol cythryblus ei wlad ar yr un pryd.
Mae Hernández wedi cyfrannu gwaith o’r enw El Mar, sef lithograff y mae wedi ymyrryd ag ef â llaw er mwyn cyflwyno gwahaniaeth i rywbeth ailadroddus.
Rydym yn falch o gyflwyno cyfres o rifynnau cyfyngedig gan artistiaid enwog yn rhyngwladol. Mae MOSTYN yn elusen gofrestredig y DU a bydd yr elw o werthiant y rhifynnau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn rhaglen arddangos ac ymgysylltu'r oriel.
Am fanylion pellach am y rhifynnau gan yr artistiaid neu i brynu rhifyn, e-bostiwch: [email protected]