Gabriele de Santis

Gabriele de Santis

Work on paper, on paper, on paper, 2018
£350

Nodiadau Post-it, clip frame
29.7 x 42.0cm
3 argraffiad wedi’u llofnodi a’u rhifo

Mae gwaith Gabriele de Santis yn symud drwy amser, yn pendilio rhwng hanes Rhufain, ei ddinas enedigol, a diwylliant cyfoes, gan aros rhwng y ddau i deithio drwy hanes y celfyddydau. Mewn cyfres o’i beintiadau, er enghraifft, gwelwn hanes trwm a grymus gwenithfaen yn gwrthdaro ag iaith rugl ac ebrwydd y cyfryngau cymdeithasol.

Mae ei weithiau yma yn cynnwys tirwedd wedi’i gwneud o un o hanfodion y swyddfa, nodiadau Post-it. Gan ddefnyddio pob math gwahanol o nodiadau Post-it y gallai De Santis gael gafael arnynt yn y siop o dan ei fflat, mae wedi defnyddio’r deunydd i greu tri darn o waith amrywiol – a phob un â’i rhythm a’i gyflymder ei hun. Casglwch y tri ohonynt!

Rydym yn falch o gyflwyno cyfres o rifynnau cyfyngedig gan artistiaid enwog yn rhyngwladol. Mae MOSTYN yn elusen gofrestredig y DU a bydd yr elw o werthiant y rhifynnau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn rhaglen arddangos ac ymgysylltu'r oriel.

Am fanylion pellach am y rhifynnau gan yr artistiaid neu i brynu rhifyn, e-bostiwch: [email protected]