Marinella Senatore
Collage a pheintiad ar gardfwrdd llysiau, heb ei fframio
21 x 29.7cm
3 argraffiad wedi’u llofnodi a’u rhifo
Mae ymarfer Marinella Senatore yn canolbwyntio ar gynnwys cymunedau a’r prosesau o gydweithio i ffurfio, i greu ac i adeiladu ei gweithiau celf, sy’n cwmpasu ffotograffiaeth, lluniadau, sain, fideo a gosodiadau. Er enghraifft, bu’n ffilmio opera, a oedd yn cynnwys gweithio gyda 20,000 o bobl o wahanol wledydd gyda swyddi amrywiol, gan gynnwys dawnswyr, seiri a myfyrwyr celf.
Mae ei rhifynnau yma’n ymwneud â’r prosiect sydd ar y gweill ganddi, sef The School of Narrative Dance, a ddechreuodd yn 2013. Drwy archwilio ffordd newydd o adrodd stori drwy goreograffi, mae’r gwaith hefyd yn ymchwilio i system addysg amgen sy’n annog cyfranogwyr i rannu eu sgiliau a datblygu rhai newydd.
Rydym yn falch o gyflwyno cyfres o rifynnau cyfyngedig gan artistiaid enwog yn rhyngwladol. Mae MOSTYN yn elusen gofrestredig y DU a bydd yr elw o werthiant y rhifynnau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn rhaglen arddangos ac ymgysylltu'r oriel.
Am fanylion pellach am y rhifynnau gan yr artistiaid neu i brynu rhifyn, e-bostiwch: [email protected]