Sol Calero

Sol Calero

Dibujo, 2016
£1000
Dibujo, 12, 2016
Dibujo, 10, 2016
Dibujo, 8, 2016
 

Pasteli olew ar bapur

Wedi’i fframio: 29.7 × 42cm (yr un)

Wedi’i lofnodi

£1000 (yr un)

 

Mae gwaith Sol Calero yn dwyn ysbrydoliaeth gan agweddau ar ddiwylliant ac achau, yn enwedig mewn perthynas â’i hanes ei hun. Mae ei gweithiau’n llawn bywyd, yn chwareus ac yn lliwgar, er eu bod ar yr olwg gyntaf yn rhoi camargraff o’u cynnwys gwleidyddol a beirniadol. Mae trosiadau gweledol ac arddulliol y ffrwythau a’r ffrogiau salsa wedi’u cynnwys i gwestiynu, i danseilio ac i dynnu sylw at broblemau o ran sut mae America Ladin, a’i gwlad enedigol hi (Venezuela) yn benodol, yn cael ei phortreadu, ei hyrwyddo a’i chyflwyno gan eraill.

 

Mae’r tri darlun pastel wedi’u cyfleu drwy ddefnyddio paled adnabyddus yr artist o liwiau glas, coch, gwyrdd a melyn.

 

Rydym yn falch o gyflwyno cyfres o rifynnau cyfyngedig gan artistiaid enwog yn rhyngwladol. Mae MOSTYN yn elusen gofrestredig y DU a bydd yr elw o werthiant y rhifynnau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn rhaglen arddangos ac ymgysylltu'r oriel.

 

Am fanylion pellach am y rhifynnau gan yr artistiaid neu i brynu rhifyn, e-bostiwch: [email protected]