trwy garedigrwydd Kristin Luke
- Gweithdy
Sgiliau Digidol EDGE: Newidiwch eich Gofod
gan ddefnyddio Clai a Wneir â Llaw a Realiti Estynedig, gyda artist Kristin Luke
7 Mai 2020, 10:00am to 29 Mai 2020, 5:00pm
Newidiwch eich Gofod gan ddefnyddio Clai a Wneir â Llaw gyda Realiti Estynedig
Yn addas ar gyfer oedolion a phlant 8+ oed, argymhellir goruchwyliaeth oedolion ar gyfer oed 8-12
Dysgwch sut i wneud eich clai eich hun o bridd gardd, gwneud cerflun ac yna dysgu sganio 3D ac AR (realiti estynedig), gyda'r artist Kristin Luke.
Byddwch yn defnyddio'r ap Qlone i greu fersiwn rithwir o'ch cerflun, y gallwch ei osod mewn rhannau annisgwyl o'ch tŷ! Mae'r tiwtorial hwn yn cyfuno'r technolegau mwyaf hynafol a chyfredol i ail-ddychmygu'ch gofod, a fydd efallai'n darparu dihangfa fer o gyfyngiadau cwarantîn, heb orfod gadael eich cartref.
Mae Realiti Estynedig, neu AR, yn dechnoleg sy’n eich galluogi i weld delweddau ‘bywyd go iawn’ a delweddau a gynhyrchir gan gyfrifiadur ar yr un pryd. Er enghraifft, gallwch edrych ar rywbeth gan ddefnyddio'r camera ar eich ffôn neu ddyfais tabled, a gweld graffeg gyfrifiadurol wedi'i arosod ar ben realiti. Yr enghraifft orau o hyn yw'r gêm ar-lein Pokémon Go, lle mae chwaraewyr yn ceisio dod o hyd i greaduriaid a gynhyrchir gan gyfrifiadur o amgylch eu lleoliad bywyd go iawn.
Bydd fideos cam wrth gam Kristin yn dysgu'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch. Gallwch anfon eich gwaith gorffenedig i ni i rannu ar wefan a chyfryngau cymdeithasol MOSTYN.
Newidiwch eich Gofod Tiwtorial 1: Gwneud Eich Clai Eich Hun
Dod o hyd i a hidlo clai o'ch gardd eich hun, i'w defnyddio gyda sganio 3D yn Tiwtorial 2
(Sicrhewch bod capsiynau YMLAEN am is-deitlau yn y Gymraeg)
Dod o hyd i a hidlo clai o'ch gardd eich hun, i'w defnyddio gyda sganio 3D yn Tiwtorial 2
(Sicrhewch bod capsiynau YMLAEN am is-deitlau yn y Gymraeg)
Newidiwch eich Gofod Tiwtorial 2: Sganio 3D gyda Qlone
Dysgwch sut i ddefnyddio'r app Qlone i sganio 3D eich cerfluniau clai
Dysgwch sut i ddefnyddio'r app Qlone i sganio 3D eich cerfluniau clai
(Sicrhewch bod capsiynau YMLAEN am is-deitlau yn y Gymraeg)
Newidiwch eich Gofod Tiwtorial 3: Realiti Estynedig gyda Qlone
Dysgwch sut i ddefnyddio'r ap Qlone i roi modelau 3D o'ch cerfluniau mewn lleoedd annisgwyl
Dysgwch sut i ddefnyddio'r ap Qlone i roi modelau 3D o'ch cerfluniau mewn lleoedd annisgwyl
(Sicrhewch bod capsiynau YMLAEN am is-deitlau yn y Gymraeg)
Anfonwch eich delweddau at [email protected] neu fideos via WeTransfer erbyn Dydd Gwener 29 Mai a byddwn yn rhannu ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol MOSTYN.
Amdan Kristin Luke
Ganed yn Los Angeles ac wedi'i leoli ym Mhenmachno, mae Kristin Luke yn artist sy'n gweithio ar draws deunyddiau digidol a diriaethol fel modd i bobl ddychmygu dewisiadau amgen i'r ffordd y mae'r byd nawr.
Darganfyddwch fwy am Kristin Luke https://kristinluke.tumblr.com/