Crefft Gyfoes yn siop MOSTYN
Elaine Adams / Bunny Bosworth / Wayne Clark / Lucy Copleston / Rachel Darbourne / Ruth Green / Annie Greenwood / Helen Jones / Miriam Jones / Louise Crookenden Johnson Ceramics / The Lost Fox / OR8 Designs / Sarah Packington / Rowena Park / Miranda Peckitt / Charmian Poole / Simon Shaw / Sarah Ross Thompson / Ellen Thorpe / Liz Toole / Chris Turrell Watts / Karen Williams / Val Worden / Heulwen Wright
Y gwanwyn hwn mae ein horiel manwerthu newydd yng nghefn ein prif siop yn gartref i ddetholiad o grefftau a phrint cyfoes a gynhyrchwyd gan wneuthurwyr dawnus o Gymru a ledled y DU.
Rydym yn gwybod y byddwch yn gweld rhywbeth y byddwch chi'n gwirioni arno i'w gadw i chi'ch hun neu i'w roi fel anrheg - o serameg i tecstilau, gemwaith i lestri gwydr, gwaith celf gwreiddiol, printiau argraffiad cyfyngedig a chymysgedd hyfryd o eitemau cyfoes wedi'u gwneud â llaw. Mae'r prisiau'n amrywio, sy'n golygu bod rhywbeth addas i bawb yma. Rydym ni'n flach o gefnogi gwneuthurwyr annibynnol yn ein siopau, ac mae'r incwm sy'n cael ei gynhyrchu hefyd yn cefnogi ein rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu.
Mae MOSTYN yn rhan o'r Cynllun Casglu, sy'n gadael i chi brynu darnau unigryw o gelf a chrefft gyfoes dros gyfnod o deuddeg mis yn ddi-log. Mae'r cynllun yn berthnasol os byddwch yn prynu darnau sy'n werth dros £50.
Mae Telerau ac Amodau'n berthnasol. Holwch yn y siop am fwy o fanylion.