Byddwch yn Gyffrous am Ddigidol yr Hanner Tymor hwn ym MOSTYN

EDGE image

Byddwch yn Gyffrous am Ddigidol yr Hanner Tymor hwn ym MOSTYN

Gweithdai digidol EDGESkills yn addas ar gyfer pob oedran


Mae gennym gyfres newydd o ddigwyddiadau digidol sy'n cynnig rhywbeth i bawb yn ystod hanner tymor mis Hydref yma.

Gydag ystod o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio a gweithgareddau sy'n addas ar gyfer pob oedran, gallwch roi cynnig ar godio, gweithio gydag artistiaid digidol cyfoes i greu 'disgo-techo' rhyfedd neu gallwch ddysgu pethau newydd a chwarae gyda thechnoleg mewn ffyrdd newydd a diddorol. 

Archebwch eich lle nawr ac archwiliwch gyda EDGE yr hanner tymor hwn ym MOSTYN!

Dydd Mawrth 29 Hydref, 10 am - 3pmGludlun Sain gyda Tim Dickinson FREE drop-in workshop (Sesiwn Gwneuthurwr addas i bobl o bob oedran a gallu)

Dydd Mercher 30 Hydref, sesiynau 50 munud yn cychwyn 10yb, 11yb, 1yp, 2yp - EDGESkills Recycle ‘Bits’ and ‘LittleBits’ £5 yr person (EDGESkills yn addas ar gyfer pob oedran, yn cynnwys plant 6+ oed)

Dydd Iau 31 Hydref, sesiynau 50 munud yn cychwyn 10yb, 11yb, 1yp, 2yp - Codio 101 £5 yr person (EDGESkills yn addas ar gyfer pob oedran, yn cynnwys plant 12+ oed)

Dydd Gwener 1 Tachwedd, sesiynau 50 munud yn cychwyn 10yb, 11yb, 1yp, 2yp - EDGESkills Paper Things £5 yr person  (EDGESkills yn addas ar gyfer pob oedran, yn cynnwys plant 12+ oed)

Nodwch os gwelwch yn dda ar yr oedrannau a nodwyd ar gyfer digwyddiadau. Rhaid i blant ar eu pen eu hunain sy'n mynychu digwyddiadau ddychwelyd at riant neu warcheidwad yn ystod unrhyw egwyliau cinio. Ni all MOSTYN na staff y gweithdy gymryd cyfrifoldeb am blant o dan 18 oed yn ystod yr egwyl ginio.

 
Amdan EDGE
Mae EDGE (Ymgysylltu Oriel Ddigidol drwy Brofiadau) yn brosiect ymchwil newydd ym MOSTYN sy'n cynnig mewnwelediadau newydd i chi, ein hymwelwyr, i gelf gyfoes ac artistiaid i wella'ch profiad yma ym MOSTYN.
 
Dyluniwyd EDGE gan bartneriaeth newydd rhwng MOSTYN, Dr Mark Lochrie o'r Media Innovation Studio ym Mhrifysgol Ganol Swydd Gaerhirfryn a'r dylunydd profiadol Dr Adrian Gradinar. Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac InnovateUK. Dan arweiniad Mark, Adrian a Clare Harding, Rheolwr Rhaglen Ddigidol MOSTYN ac ymchwilydd PhD preswyl, roedd y broses ddylunio yn cynnwys sawl diwrnod o ymgynghori â thîm MOSTYN ac aelodau o'n cynulleidfaoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol dylunio, a gobeithiwn ein bod wedi adeiladu rhywbeth sy'n ddefnyddiol i chi, hwyl, ond yn bennaf, yn hwyl!
 
Fel rhan o EDGE, mae MOSTYN hefyd yn darparu tymor o weithdai, sgyrsiau artistiaid a sesiynau hyfforddi i annog mwy o bobl i gael hwyl gyda thechnoleg greadigol. Ym mis Hydref bydd lansiad rhaglen ddigwyddiadau EDGE, ond bydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2020, felly cadwch lygad ar ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol am fwy o ddigwyddiadau.
 
 
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect EDGE neu digwyddiadau cysylltwch â [email protected]