Sgiliau Digidol EDGE: Dylunio Cymru'r Dyfodol

workshop image
courtesy Paul Eastwood / Ysgol y Creuddyn
  • Gweithdy

Sgiliau Digidol EDGE: Dylunio Cymru'r Dyfodol

gyda artist Paul Eastwood
30 Ebrill 2020, 10:00am to 29 Mai 2020, 5:00pm
Dylunio Cymru'r Dyfodol
Dysgwch sut i ddefnyddio meddalwedd SketchUp, gyda'r artist Paul Eastwood, a chyfrannwch at waith celf ddigidol newydd sbon (addas ar gyfer oedolion a phlant 12+ oed)
 
Cyfres o diwtorialau lle byddwch yn dysgu sut i luniadu gwrthrychau 3D gan ddefnyddio meddalwedd SketchUp. Yna byddwch yn defnyddio'ch sgiliau i ddylunio adeiladau ar gyfer Cymru'r dyfodol. Anfonwch eich dyluniadau atom ni er mwyn gyfrannu at weledigaeth gyfrannol o'ch Cymru'r Dyfodol a fydd yn cael ei harddangos ar wefan a chyfryngau cymdeithasol MOSTYN.
 
Pa fath o adeiladau hoffech chi weld yng Nghymru'r dyfodol?
 
Gallai hwn fod yn dŷ, canolfan siopa, llyfrgell, arena chwaraeon, amgueddfa neu unrhyw adeilad arall yr hoffech ei greu.
 
Dyma'ch cyfle i ddychmygu a dylunio adeilad a'i anfon at MOSTYN, lle mi fydd yn cael ei ychwanegu i greu dinas Gymreig y dyfodol.
 
Byddwch yn arbrofol, yn feiddgar ac yn ddychmygus. Helpwch i greu gweledigaeth gyffrous o Gymru'r Dyfodol.
 
 
Cychwyn Arni: Sut i lawr lwytho SketchUp
 
 
 
Tiwtorial 1: Siâp a'r Offer Push (Gwthio) - Pull (Tynnu)
Lluniadu siapiau dau ddimensiwn a'u gwthio/tynnu nhw i mewn i 3D
 
 
 
Tiwtorial 2:
Offer Orbit, Pan (Tremio), Zoom (Chwyddo) a Zoom Extent (Chwyddo Maint)
Symud o amgylch y sgrin i weld eich dyluniad ac ychwanegu manylion
 
 
 
Tiwtorial 3
Offer Line (Llinell) a Free Hand (Llawrydd)
Lluniadu elfennau ychwanegol â llaw
 
 
 
Tiwtorial 4
Offer Select (Dewis) ac Erase (Dileu)
Gwneud newidiadau i'ch dyluniad
 
 
 
Tiwtorial 5
Offer Move (Symud) a Rotate (Chylchdroi)
Newidiwch drefniad a threfn eich dyluniad
 
 
 
Tiwtorial 6
Copy and Paste (Copi a Gludo)
Dyblygu'ch holl neu ran o'ch dyluniad
 
 
 
Tiwtorial 7
Offeryn Paint Bucket (Bwced Paent)
Ychwanegu lliwiau a phatrwm
 
 
 
 
Tiwtorial 8
Offeryn Shadow (Cysgod)
Ychwanegu cysgodion i wneud eich dyluniad yn fwy byw
 
 
 
Tiwtorial 9
Offeryn Follow Me (Dilynwch Fi)
Creu siapiau 3D anarferol
 
 
 
Tiwtorial 10
Offeryn Measurement (Mesur)
Defnyddio graddfa yn eich dyluniad
 
 
 
Tiwtorial 11
Make Component (Cydran Gwneud) a Make Group (Grŵp Gwneud)
Gweithio gyda grwpiau o wrthrychau
 
 
 
Tiwtorial 12
Sut i Save (Arbed) ac Export (Allforio)
Rhannwch eich dyluniad gyda ni ym MOSTYN!
 
 
 
 
Anfonwch eich dyluniadau at [email protected] erbyn dydd Gwener 29 Mai er mwyn gyfrannu at weledigaeth gyfrannol o'ch Cymru'r Dyfodol a fydd yn cael ei harddangos ar wefan a chyfryngau cymdeithasol MOSTYN.
 
 
Amdan EDGE
Ariannwyd rhaglen EDGE MOSTYN gyda diolch i'r gefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru ac Innovate UK. O fis Ionawr 2019, mae MOSTYN wedi gweithio yn gysylltair â Phrifysgol Wrecsam Glyndŵr ag ymchwilydd PhD preswyl Clare Harding i edrych ar beth y mae cynulleidfaoedd eisiau o oriel gelf gyhoeddus yn yr oes ddigidol.