Mae MOSTYN yn cyhoeddi rhaglen ddigidol ar gyfer Haf 2020

Montez image

Mae MOSTYN yn cyhoeddi rhaglen ddigidol ar gyfer Haf 2020

mewn cydweithrediad gyda 'Montez Press Radio' a 'The Mycological Twist'

Rydym yn falch o lansio dau brosiect digidol newydd, mewn cydweithrediad â Montez Press Radio a The Mycological Twist a fydd yn cael eu cynnal drwy gydol yr haf.
 
Montez Press Radio 
Dydd Sul 31 Mai, 28 Mehefin, 26 Gorffennaf, 30 Awst 2020, 3pm - 7pm BST (GMT +1)
 
Mewn cydweithrediad â MOSTYN, bydd Montez Press Radio yn lansio cyfres o gyfweliadau, sgyrsiau, darlleniadau a sain gan artistiaid, awduron, cyhoeddwyr, cerddorion a selogion. Yng ngoleuni'r sialensiau cyfredol sy’n wynebu pobl ledled y byd ac o fewn y sector celfyddydol, mae'r gyfres hon yn ceisio meithrin ymdeimlad o ddeialog a chymuned barhaus. Mae'r rhaglen yn cynnwys darllediadau newydd a deunydd o archif Montez Press Radio. Bydd y darllediadau yn cael eu darlledu ar ddydd Sul olaf bob mis o fis Mai tan fis Awst (31 Mai, 28 Mehefin, 26 Gorffennaf, 30 Awst) o 3-7pm BST (GMT +1)
 
Ymhlith y cyfranwyr, gydag enwau eraill i’w cyhoeddi’n fuan, fydd: A.M.Bang, Christiane Blattmann, Jacqueline de Jong, Jack Burton, Caribic Residency, Juliette Desorgues, Olivia Erlanger, Endangered Languages Project, Attilia Fattori Franchini, Dorota Gawęda and Eglė Kulbokaitė, Cinzia Mutigli, New Latin Wave, Athena Papadopoulos, Hannah Regel, Erica Scourti, Zoë Skoulding, Joe Walsh, Yellow Back Books (Becca Thomas, Louise Hobson, Freya Dooley & Clare Charles). 
 
 
Mae Montez Press yn gwmni cyhoeddi a gorsaf radio sy’n cael ei redeg gan artistiaid ac yn gweithredu rhwng Llundain, Hamburg, Efrog Newydd a Brwsel. Caiff ei weld fel trydydd iteriad ysbrydol Lola Montez (Lola, Maria, Mario). Cafodd Montez Press ei sefydlu yn 2012, ac ers hynny, mae wedi cyhoeddi testunau sy’n ysgrifennu yn erbyn moddau beirniadol cyfredol a dogmâu damcaniaethol sy'n llywio ffordd y mae’r economi wybodaeth gyfoes yn gweithio.
 
***
The Mycological Twist: MycoTV
15- 19 Mehefin, yn ddyddiol 6pm - 8pm BST (GMT+1) 
 
Mae MycoTV yn rhaglen deledu 5 diwrnod sy’n cael ei harwain gan Mycological Twist, prosiect o dan arweiniad yr artistiaid o Berlin Eloise Bonneviot ac Anne de Boer mewn cydweithrediad â’r artist Leslie Kulesh. Mae’r ail iteriad o MycoTV yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â MOSTYN. Mae'r rhaglen yn ceisio mynd i'r afael â'r gwahanol frwydrau sydd wedi deillio o'r argyfwng Coronafeirws ac i lunio ymdeimlad o undod a gofal ar draws cymunedau. Bydd y darllediad yn cynnwys myfyrdodau beirniadol o ddisgyblaethau fel celf, ysgrifennu, cerddoriaeth, dylunio a gweithredu. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfres o sgyrsiau, gweithdai, darlleniadau a cherddoriaeth, gan ddefnyddio'r cysyniad o ‘SlowTV’ fel man cychwyn. 
 
Fel teyrnged i’r geifr sy’n crwydro’n ddidrafferth ar hyd strydoedd Llandudno, mae MycoTV yn cyfleu’r syniad o imiwnedd praidd. Nid praidd sy’n datblygu imiwnedd, ond un sy'n gaeth i'w chartref ac yn barhaol heintus. Praidd sy'n feddal ac yn dyner a all rannu eiliad o anwyldeb drwy eiliad o gyd-ymgynnull rhithwir.
 
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu’n ddyddiol ar-lein rhwng 6pm - 8pm  BST (GMT.+1). Bydd pob pennod yn cael ei rhannu’n ddarnau : KIDStv, DIYtv, THEORYtv, FICTIONtv a SLOWtv. Bydd pob dydd yn canolbwyntio ar themâu gwahanol, wedi’u hysbrydoli gan faterion a chwestiynau sy’n deillio o’r argyfwng presennol: Blue Mondays, Preppers 4 Toilet Paper, Indoor Activism, Household Ecologies, and Intimacy.
 
Ymhlith y cyfranwyr fydd: Clay AD, Hamja Ahsan, Marija Bozinovska Jones, Dorota Gawęda and Eglė Kulbokaitė, Dylan Huw, Juliet Jacques, Hannah Lees, Huw Lemmey, Nemesis (Emily Segal and Martti Kalliala), Lola Olufemi, Rosanna Puyol, Dr. Sibani Roy, Lee Tiratira, Holly White, Angharad Williams.
 
Sefydlwyd The Mycological Twist gan yr artistiaid o Berlin, Eloise Bonneviot ac Anne de Boer sy’n gweithredu fel gardd fadarch sefydlog a phrosiect nomadig. Ers 2019, mae’r ardd wedi’i lleoli ar falconi yn Berlin. Ystyrir y prosiectau a gychwynnwyd gan The Mycological Twist fel lle i ymchwilio i'r cylch o ddirywiad ac adfywio sy'n digwydd mewn parthau o Ecoleg Dywyll.  
 
***
Rhan o EDGE rhaglen digidol MOSTYN, cefnogwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru