
RYDYM YN RECRIWTIO: Rheolwr Dyngarwch
Hoffech chi weithio ochr yn ochr â'n tîm ym MOSTYN?
Mae MOSTYN yn chwilio am Reolwr Dyngarwch i ddatblygu cyfleoedd i gael ffrydiau incwm ychwanegol, gan gynnwys Rhoddion gan Unigolion / Corfforaethau a Chynlluniau Nawdd, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Dyma swydd newydd sy’n gyfle cyffrous i godwr arian profiadol alluogi’r oriel i gyflawni ei gweledigaeth a’i chenhadaeth.
Mae’r swydd yn addas i rywun sydd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad o godi arian yn llwyddiannus ym meysydd y Celfyddydau, Elusennau neu Addysg.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad amlwg o greu incwm sylweddol, datblygu perthnasoedd â rhoddwyr a chyflawni targedau.
Lawrlwytho'r Disgrifiad Swydd yma
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr esboniadol byr at: [email protected]
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch Alfredo Cramerotti ar 07941 470145
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau 12 Mawrth 2020, 5pm
18 Chwefror 2020