Mae rhaglen ddigidol MOSTYN 'EDGE i Ysgolion' yn mynd ar-lein

delwedd gweithdy

Mae rhaglen ddigidol MOSTYN 'EDGE i Ysgolion' yn mynd ar-lein

Adnoddau dysgu ar gyfer pob oedran


Dros y flwyddyn ddiwethaf cynhaliodd ein rhaglen 'EDGE for Schools', a ariannwyd gan y Cyngor Celfyddydau Cymru, dros 40 o weithdai sgiliau digidol, yn gweithio gyda bron i 200 o ddisgyblion yn pedair ysgol yn sir Conwy. Tra bod yr oriel ar gau dros dro oherwydd pryderon ynghylch COVID-19, a chyda holl weithgareddau oddi ar y safle yn cael eu gohirio, rydym yn symud gweddill ein rhaglen ar-lein sy'n golygu y gallwn agor ein gweithdai digidol gwych i bawb, ym mhobman. Mae'r gweithdai wedi'u hanelu at bobl ifanc 7 i 16 oed ond gall unrhyw un roi cynnig arni!

Mae'r gweithdai'n cynnwys lluniadu a modelu 3D, realiti estynedig, animeiddio a thrin delweddau, gyda chyfleoedd i gyfrannu at waith celf gydweithredol a fydd yn cael eu harddangos ar sianeli digidol MOSTYN.


Dysgwch sut i ddefnyddio meddalwedd SketchUp, gyda'r artist Paul Eastwood, a chyfrannwch at waith celf ddigidol newydd sbon (addas ar gyfer oedolion a phlant 12+ oed)
 
Cyfres o diwtorialau lle byddwch yn dysgu sut i luniadu gwrthrychau 3D gan ddefnyddio meddalwedd SketchUp. Yna byddwch yn defnyddio'ch sgiliau i ddylunio adeiladau ar gyfer Cymru'r dyfodol. Anfonwch eich dyluniadau atom ni er mwyn gyfrannu at weledigaeth gyfrannol o'ch Cymru'r Dyfodol a fydd yn cael ei harddangos ar wefan a chyfryngau cymdeithasol MOSTYN.
 
 
***

Yn addas ar gyfer oedolion a phlant 8+ oed, argymhellir goruchwyliaeth oedolion ar gyfer oed 8-12
 
Dysgwch sut i wneud eich clai eich hun o bridd gardd, gwneud cerflun ac yna dysgu sganio 3D ac AR (realiti estynedig), gyda'r artist Kristin Luke. Byddwch yn defnyddio'r ap Qlone i greu fersiwn rithwir o'ch cerflun, y gallwch ei osod mewn rhannau annisgwyl o'ch tŷ! Mae'r tiwtorial hwn yn cyfuno'r technolegau mwyaf hynafol a chyfredol i ail-ddychmygu'ch gofod, a fydd efallai'n darparu dihangfa fer o gyfyngiadau cwarantîn, heb orfod gadael eich cartref.
 
Bydd fideos cam wrth gam Kristin yn dysgu'r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch. Gallwch anfon eich gwaith gorffenedig i ni i rannu ar wefan a chyfryngau cymdeithasol MOSTYN.
 

Dysgu defnyddio meddalwedd syml a thechnegau lluniadu/gludlun, gydag artist Elly Strigner, i greu animeiddiad byr a chyfrannu at waith celf ddigidol newydd sbon (addas ar gyfer oedolion a phlant 7+ oed)
 
Trwy wylio ffilm fer 'Sut i' Elly, byddwch yn dysgu sut i greu ac animeiddio llythrennau a geiriau ar thema Natur. Creu animeiddiad hyd at 30 eiliad ac yna anfonwch eich ffilmiau byr atom i gyfrannu at animeiddiad lliwgar cydweithredol yn seiliedig ar eiriau!
 

***
Cychwyn Arni gyda Golygu Lluniau 
(Yn dod yn fuan. Byddwn yn cyhoeddi yma, ac ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, pryd fydd y gweithdy hwn yn mynd yn fyw.)

Dysgwch sut i ddefnyddio meddalwedd trin delweddau i newid eich ffotograffau yn ddigidol ar eich ffôn neu dabled. (addas ar gyfer 13+ oed ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn golygu lluniau sylfaenol)
 
Ymunwch â Holly o'n Tîm Ymgysylltu, wrth iddi fynd â chi trwy bum ffordd i drin eich ffotograffau gan ddefnyddio ap am ddim Adobe Photoshop Express. Anfonwch eich delweddau digidol atom ni i rannu neu cadwch sgrin luniau ar gyfer eich gwaith cwrs celf/dylunio.
 
***
Amdan EDGE

 
Ariannwyd rhaglen EDGE MOSTYN gyda diolch i'r gefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru ac Innovate UK. O fis Ionawr 2019, mae MOSTYN wedi gweithio yn gysylltair â Phrifysgol Wrecsam Glyndŵr ag ymchwilydd PhD preswyl Clare Harding i edrych ar beth y mae cynulleidfaoedd eisiau o oriel gelf gyhoeddus yn yr oes ddigidol.