- Gweithgaredd i blant
‘Moo’styn Ninjas Parti Gwartheg Nadolig (AM DDIM)
21/12/12 6y.h – 8:30y.h
(I blant a oedolion)
Cynllun celf cyffrous newydd i bobl ifanc rhwng 11-13 ydy’r “MOSTYN NINJAS”. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd i drefnu gweithgareddau a chreu digwyddiadau cyffrous ar gyfer pobl ifanc sydd yn cael eu hysbrydoli gan Mostyn a’u harddangosfeydd! Bwriad y cynllun ydi i alluogi pobl ifanc i gynllunio a chymryd rhan mewn cyfres o raglenni hunan-werthusol o weithgareddau addysgiadol wedi eu canoli yn bennaf ar gelf weledol. Yn gweithio mewn cydweithrediad â nifer o artistiaid a staff Mostyn, maent yn derbyn yr offer ar gyfer creu’r prosiect ac yn cael cyfle i lwyfannu eu syniadau a’u lleisiau ynglŷn â chelf.
Ymunwch â’r Ninjas mewn noswaith llawn o wartheg a hwyl Nadoligaidd! Yn cynnwys enwi’r fuwch, blasu caws, cerddoriaeth a mwy!
Booking:
Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno a chymryd rhan yn y sesiynau, cysylltwch â Sioned Phillips drwy e-bost: [email protected] neu ffoniwch 01492 879 201