- Sgwrs
Angharad Williams
I gyd-fynd ag agoriad Picture the Others, bydd Angharad Williams yn trafod gyda Churadur Celfyddydau Gweledol MOSTYN, Juliette Desorgues.
Bydd y sgwrs yn cymryd lle ym MOSTYN.
Mae Angharad Williams yn artist sy'n byw yn Ynys Môn a Berlin. Mae arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys High Horse, Kevin Space, Fienna (2021); Without the Scales, Schiefe Zähne, Berlin (2020); Witness, Haus Zur Liebe, Schaffhausen (2019); Island Mentality, Peak, Llundain (2019); a Scarecrows, LISZT, Berlin (2018). Mae ei gwaith wedi'i gynnwys mewn nifer o arddangosfeydd grŵp gan gynnwys: Jerwood Arts, Llundain (2021), Stadtgalerie Bern (2021) a Kunstverein Munich (2020). Mae perfformiadau wedi digwydd yn KW Institute for Contemporary Art, Berlin (2020); ICA, Llundain (2019); and Radiophrenia, Glasgow (2017).
Curadur ac awdur yw Juliette Desorgues. Mae hi ar hyn o bryd yn Guradur Celfyddydau Gweledol ym MOSTYN. Mae hi wedi gweithio fel Curadur Cyswllt yn yr Institute of Contemporary Arts, Llundain ac wedi dal swyddi curadurol yn oriel y Barbican, Llundain a Generali Foundation, Fienna. Astudiodd Hanes Celf ym Mhrifysgol Caeredin, Prifysgol Fienna a University College London.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.
Booking:
Mae’r digwyddiad AM DDIM ond mae niferoedd yn gyfyngedig felly archebwch y tocyn drwy Eventbrite.