Archwilio a dysgu oddi wrth y riffau cwrel mwyaf anghysbell ar y Ddaear

Year of the Sea image
Year of the Sea image
  • Sgwrs

Archwilio a dysgu oddi wrth y riffau cwrel mwyaf anghysbell ar y Ddaear

Darlith gan Gareth Williams
6 Rhagfyr 2018, 7:00pm

Mae riffiau cwrel trofannol ymhlith rhai o'r ecosystemau sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan ddyn ar ein planed. Mae deall yn union sut mae bodau dynol wedi trawsnewid riffiau cwrel yn heriol o ystyried presenoldeb a chymhlethdod effeithiau dynol ar draws ein planed. Bydd y ddarlith hon yn trafod sut mae riffiau cwrel anghysbell, sydd heb eu heffeithio gan bwysau dynol lleol fel pysgota a datblygiadau arfordirol, wedi datblygu ein dealltwriaeth o swyddogaeth naturiol yr ecosystemau amrywiol hyn.

 

Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr

Noddir gan Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd

 

Bydd Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr yn edrych ar amrywiaeth y bywyd yn ein moroedd ni - o facteria i forfilod.

 

Cyflwynir y darlithoedd ar nosweithiau Iau gan chwe gwyddonydd morol blaenllaw sydd i gyd yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd unigol.

 

27 Medi David Thomas: Bywyd tu mewn i bac rhew yn yr Antarctig a’r Arctig

11 Hydref Stuart Jenkins: Ecoleg estroniaid morol a’r rheolaeth arnynt

25 Hydref Lewis LeVay: Ffermio cynaliadwy yn y môr - o fyd-eang i leol

8 Tachwedd Mattias Green: Llanwau, peli eira ac esblygiad

22 Tachwedd Line Cordes: Byd acwstig mamaliaid y môr

6 Rhagfyr Gareth Williams: Archwilio a dysgu oddi wrth y riffiau cwrel mwyaf anghysbell ar y Ddaear

 

 

Hanes MOSTYN - Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol

Yn ystod yr ymchwil ar gyfer y Gyfres Hanes o arddangosfeydd (2014-2017), gwelwyd bod adeilad yr oriel yn gartref i 'Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol' rhwng 1903-1912. Cafwyd rhaglen gynhwysfawr o ddarlithoedd gan siaradwyr o amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys gwyddor môr.

Mae Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr yn galluogi MOSTYN i ddathlu ei threftadaeth ac i ddangos sut mae ymchwil gyfredol mewn gwyddor môr yn ymateb i faterion cyfoes.

 

 

 

 

 

 

 

Gwybodaeth am Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd (NRN-LCEE)

Mae’r NRN-LCEE yn fenter ymchwil fawr, sy’n werth £7M ledled Cymru. Mae’n cefnogi gwaith ymchwil rhagorol ar y rhyngweithio rhwng tir, dŵr a’r broses o ddarparu bwyd a chynhyrchu ynni.  Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n ariannu'r Rhwydwaith drwy Raglen Sêr Cymru ar gyfer denu talent wyddonol i Gymru.

 

Mae’r Rhwydwaith yn ariannu Cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau ymchwil PhD sy’n rhan o ‘Glystyrau Ymchwil’ rhyngddisgyblaethol a chydweithredol Prifysgolion Cymru a phartneriaid eraill, yn ogystal â Chymrodoriaethau ar gyfer ymchwilwyr sy’n dychwelyd i’r byd addysg ar ôl seibiant gyrfa. Mae’r unigolion dawnus hyn yn mynd i’r afael â heriau ymchwil gwahanol sy’n berthnasol i’r gymdeithas ac i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn ogystal â hyn, mae’r Rhwydwaith yn darparu arian datblygu ymchwil ac yn trefnu darlithoedd, gweithdai a digwyddiadau cyhoeddus eraill gyda’r nod o ddenu arbenigwyr ym meysydd ymchwil LCEE ac sy’n ymwneud â heriau presennol i Gymru.  

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar gael ar y wefan:www.nrn-lcee.ac.uk

 

Booking: 

AM DDIM
Cynghorir archebu ar 01492 868191 neu drwy alw i'r oriel.