
- Gweithgaredd i blant
Arddangosfa 'Teithiau' yn Ysgol Tudno
Arddangosfa ‘pop-up’, gan ddisgyblion Ysgol Tudno, mewn partneriaeth gyda MOSTYN ac artist Nadine-Carter Smith.
Mae disgyblion o Ysgol Tudno yn Llandudno yn falch o gyflwyno arddangosfa, o’r enw ‘Teithiau’, sy’n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn Mai 16eg a Dydd Sul Mai 17eg yn yr ysgol ar Heol y Drindod.
Canlyniad prosiect artist preswyl dros gyfnod o bum wythnos yw’r arddangosfa dros dro, sy’n ran o bartneriaeth cyfredol gydag Oriel MOSTYN Gallery yn Stryd Vaughan. Ceir sgyrsiau gyda’r artist, gweithdai celf a darlleniadau barddoniaeth yn ystod y penwythnos.
Mae’r artist Nadine Carter-Smith wedi bod yn gweithio yn yr ystol ers dechrau mis Ebrill ac mae pob un o’r 220 disgybl, o 3 i 11 oed, wedi cymryd rhan mewn gweithdai celf gyda Nadine. Mae’r cerddor ‘beat box’ a hip hop, Ed Holden, a adwaenir hefyd fel Mr Phormula, wedi bod yn gweithio gyda’r disgyblion i greu darlun sain i gyd-fynd â‘r arddangosfa. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ran o gwricwlwm Blwyddyn 5 sy’n gofyn i’r plant greu, curadu, trefnu a hyrwyddo eu oriel ei hunain. Y canlyniad fydd arddangosfa yn neuadd yr ysgol, gyda mwy o weithiau celf gan Nadine yn ffurfio llwybr o gwmpas adeilad yr ysgol.
Booking:
Dydd Sadwrn 16 Mai – Dydd Sul 17 Mai 2015
Oriau Agor: 10.30yb – 4.30yn
Mynediad AM DDIM. Croeso i bawb.
Sgwrs dywys gyda’r artist Nadine Carter-Smith – Dydd Sadwrn/Sul 11:30am
Gweithdy Celf i’r Teulu – Dydd Sadwrn/Sul 1pm
Darlleniadau Barddoniaeth – Dydd Sadwrn/Sul 3pm