
- Gweithdy
Arlunio Digidol gyda Vicky Wainwright
Arbenigo mewn cyd-gynhyrchu, darlun, celf cysyniad a bwrdd stori, mi fydd Vicky yn rhannu ei sgiliau a’i dawn fel storïwr gweledol mewn darlunio, gan ddefnyddio technegau traddodiadol a digidol.
Paratowch eich proses creadigol, meddyliwch yn ehangach am y byd mae eich gwaith yn perthyn iddo. Peidiwch â dim ond bod yn artist, byddwch yn storïwr a byd grëwr!
Mi fydd y gweithdy yn ymdrin â dylunio cyffredinol a thechnegau dylunio cymeriadau.
Mi fydd Vicky yn rhoi arddangosiad byw o’i phroses gweithio, a chaiff pawb sydd yn mynychu'r sesiwn gyfle i geisio dylunio eu gwaith yn draddodiadol, ac yna ei drawsnewid yn ddigidol. Mae’r gweithdy yn cynnwys dysgu sut i lanhau ar linellau, lliwio haenog ac ymdrin â chysgodion a goleuo.
Am ragor o fanylion am Vicky, pwyswch yma
£12.50 y gweithdy neu £50 am y pum gweithdy.
Mae’r holl ddeunyddiau ar gael a wedi eu cynnwys yn y bris.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau.
Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191.