Artist mewn Sgwrs

  • Sgwrs

Artist mewn Sgwrs

Wanda Zyborska - Fy ngwaith a'r artistiaid benywaidd sydd wedi fy ysbrydoli.
9 Chwefror 2019, 2:30pm

Mae Wanda Zyborska yn gweithio mewn amrywiaeth mawr o gyfryngau, mewn 3D a pherfformio yn bennaf, ac mae hi'n aml yn defnyddio dulliau tecstilau i greu gwaith sy’n herio stereoteipiau rhywedd a hunaniaeth. Mae hi'n ymddiddori mewn celfyddyd wleidyddol ac ymyriadau cyhoeddus.

Mae Wanda wrthi’n astudio am ddoethuriaeth drwy ymarfer er mwyn archwilio materion yn ymwneud â heneiddio a'r modd mae menywod hŷn yn cael eu cynrychioli. Mae hi’n gweithio yng nghyd-destun damcaniaethol y corff a hunaniaeth, sy’n bodoli yn y wleidyddiaeth sy'n ymdrin â lle a rhywedd. Mae hi'n aelod o wahanol gydweithfeydd celf, ac mae hi’n addysgu Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Bangor.

 

Yn dilyn y sgwrs, bydd trafodaeth gydag Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN.

 

 

Booking: 

£3 (Bwcio yn hanfodol)

01492 868191

[email protected]