Artist mewn sgwrs: Anj Smith

delwedd Anj Smith
Anj Smith, Untitled (Nothing Makes It Through), 2012. Courtesy the artist and Hauser & Wirth. Private Collection, London.
  • Sgwrs

Artist mewn sgwrs: Anj Smith

mewn sgwrs efo Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN
25 Ionawr 2020, 4:00pm
 
Bydd Anj Smith, sy'n arddangos ym MOSTYN ar hyn o bryd, mewn sgwrs â Chyfarwyddwr MOSTYN, Alfredo Cramerotti. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr oriel.
 
Astudiodd Anj Smith (ganwyd yng Nghaint, Lloegr yn 1978) yn Ysgol Celfyddyd Gain Slade ac yng Ngholeg Goldsmiths yn Llundain. Mae Smith wedi arddangos yn rhyngwladol mewn amgueddfeydd ac orielau fel Amgueddfa Gelf Sara Hildén, Tampere, y Ffindir; Amgueddfa Morsbroich, Leverkusen, yr Almaen; Fondazione Stelline, Milan, yr Eidal; Amgueddfa Arnhem, Arnhem, yr Iseldiroedd; The Bluecoat, Lerpwl, y DU; Amgueddfa Gelf Knoxville, Knoxville TN; Canolfan Celf Gyfoes Hudson Valley, Peekskill, Efrog Newydd; Galerie Isa, Mumbai, India; La Maison Rouge, Paris, Ffrainc a Me Collector’s Room, Berlin, yr Almaen. Caiff gwaith Smith ei arddangos mewn casgliadau sawl amgueddfa ryngwladol flaenllaw yn cynnwys Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain, y DU; Amgueddfa Celf Gyfoes MOCA, Los Angeles CA; DRAF - Sefydliad Celf David Roberts, Llundain, y DU ac Amgueddfa Gelf Sara Hildén, Tampere, y Ffindir. 
 

Booking: 

£5 y tocyn (£4 concessions)

Argymhellir archebu lle via Eventbrite neu via siop MOSTYN