- Gweithdy
Artist yn Cerdded
Bydd yr artist, Alison Lloyd, yn arwain taith gerdded gron o gwmpas Llandudno a mannau uchel cyfagos gyda golygfeydd cynhwysfawr o Eryri, gyda’r dro, y siwrnai a phen y daith oll yn ffurfio’r celf.
• Cyfarfod yn MOSTYN am 10:30yb, i gychwyn am 11:00yb. Gorffen yn MOSTYN am 4:00yp.
• Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas ar gyfer tywydd cyfnewidiol. Bydd y daith yn digwydd sut bynnag fo’r tywydd.
• Dylai cerddwyr ddod â sach deithio gyda bwyd, byrbrydau a diodydd gan y byddem allan am 5 awr.
• Bydd toiledau ar gael ar gychwyn y daith ynMOSTYN ac wedyn yn West Shore.
Bydd yr ogwydd annisgwyl hwn ar yr heic draddodiadol, ar ddydd Sadwrn 1 Medi ac yn addas ar gyfer oedolion a phlant dros 12 oed yng nghwmni oedolyn, yn gwneud cysylltiadau rhwng celf cyfoes, arddangosfeydd cyfredol yn MOSTYN a gweithgareddau awyr agored a cherdded dinesig.
Caiff cerddwyr eu dangos sut i ddefnyddio’r dechneg ‘mordwyo-meicro’ fel modd o brofi a chwblhau’r dro, techneg sy’n gwneud cerddwyr yn fwy ymwybodol o newidiadau cynnil yn lefelau’r stryd a’r llawr trwy fesur y pellter a deithwyd wrth amseru a chamu.
• Caiff mapiau eu darparu.
• Lluniaeth yn yr oriel i orffen.
I lawrlwytho’r wybodaeth uchod ac i ganfod mwy am ‘fordwyo-meicro’, cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth am Alison, cliciwch yma.
Am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â [email protected].
Booking:
Côst: £10
I gadw lle, cysylltwch â Siop MOSTYN ar 01492 868191 neu ebostiwch [email protected]. Mae nifer cyfyngedig o lefydd a rhaid cadw a thalu am le o flaen llaw.