- Sgwrs
Atlas Dros Dro: Artistiaid mewn sgwrs
I gyd-fynd â lansiad Atlas Dros Dro, ymunwch â Chyfarwyddwr Alfredo Cramerotti am drafodaeth gyda thri o'r artistiaid dan sylw.
Bydd curadur a Chyfarwyddwr MOSTYN, Alfredo Cramerotti, yn arwain trafodaeth fanwl gyda thri o’r artistiaid sy’n cyflwyno gwaith yn Atlas Dros Dro: Mapio’r Hunan yng Nghelfyddyd Heddiw, Adéọlá Dewis, Manon Awst a Paul Eastwood.
Bydd y sgwrs yn rhedeg o 3yp - 4yp i gynulleidfa fyw gyfyngedig ac yn cael ei dilyn gan ddigwyddiad agoriadol a diodydd a lluniaeth a ddarperir gan Gaffi Oriel o 4yp.
Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio a’i rannu ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol ymhellach ymlaen.
Bydd gorchuddion wyneb a glanweithydd dwylo ar gael wrth ddod i mewn ac rydym yn cynghori mynychwyr i wisgo gorchuddion wyneb yn ystod y digwyddiad.
Cefnogir y digwyddiad hwn hefyd gan Gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain.