Byd acwstig mamaliaid y môr

Year of the Sea image
Year of the Sea image
  • Sgwrs

Byd acwstig mamaliaid y môr

Darlith gan Line Cordes
22 Tachwedd 2018, 7:00pm
Mae sain yn teithio pum gwaith yn gyflymach drwy ddŵr môr na thrwy aer ac mae'n gallu cwmpasu pellteroedd helaeth yn y cefnfor. Mae mamaliaid y môr yn dibynnu ar sain i gyfathrebu, i gyfeirio eu hunain ac i leoli eu hysglyfaeth. Bydd y ddarlith hon yn archwilio sut mae mamaliaid y môr yn defnyddio sain a sut mae’r cynnydd mewn sŵn dynol yn y cefnforoedd yn effeithio ar eu poblogaethau.
 

 

Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr

Noddir gan Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd

 

Bydd Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr yn edrych ar amrywiaeth y bywyd yn ein moroedd ni - o facteria i forfilod.

 

Cyflwynir y darlithoedd ar nosweithiau Iau gan chwe gwyddonydd morol blaenllaw sydd i gyd yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd unigol.

 

27 Medi David Thomas: Bywyd tu mewn i bac rhew yn yr Antarctig a’r Arctig

11 Hydref Stuart Jenkins: Ecoleg estroniaid morol a’r rheolaeth arnynt

25 Hydref Lewis LeVay: Ffermio cynaliadwy yn y môr - o fyd-eang i leol

8 Tachwedd Mattias Green: Llanwau, peli eira ac esblygiad

22 Tachwedd Line Cordes: Byd acwstig mamaliaid y môr

6 Rhagfyr Gareth Williams: Archwilio a dysgu oddi wrth y riffiau cwrel mwyaf anghysbell ar y Ddaear

 

 

Hanes MOSTYN - Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol

Yn ystod yr ymchwil ar gyfer y Gyfres Hanes o arddangosfeydd (2014-2017), gwelwyd bod adeilad yr oriel yn gartref i 'Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol' rhwng 1903-1912. Cafwyd rhaglen gynhwysfawr o ddarlithoedd gan siaradwyr o amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys gwyddor môr.

Mae Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr yn galluogi MOSTYN i ddathlu ei threftadaeth ac i ddangos sut mae ymchwil gyfredol mewn gwyddor môr yn ymateb i faterion cyfoes.

 

 

 

 

 

 

 

Gwybodaeth am Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd (NRN-LCEE)

Mae’r NRN-LCEE yn fenter ymchwil fawr, sy’n werth £7M ledled Cymru. Mae’n cefnogi gwaith ymchwil rhagorol ar y rhyngweithio rhwng tir, dŵr a’r broses o ddarparu bwyd a chynhyrchu ynni.  Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n ariannu'r Rhwydwaith drwy Raglen Sêr Cymru ar gyfer denu talent wyddonol i Gymru.

 

Mae’r Rhwydwaith yn ariannu Cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau ymchwil PhD sy’n rhan o ‘Glystyrau Ymchwil’ rhyngddisgyblaethol a chydweithredol Prifysgolion Cymru a phartneriaid eraill, yn ogystal â Chymrodoriaethau ar gyfer ymchwilwyr sy’n dychwelyd i’r byd addysg ar ôl seibiant gyrfa. Mae’r unigolion dawnus hyn yn mynd i’r afael â heriau ymchwil gwahanol sy’n berthnasol i’r gymdeithas ac i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn ogystal â hyn, mae’r Rhwydwaith yn darparu arian datblygu ymchwil ac yn trefnu darlithoedd, gweithdai a digwyddiadau cyhoeddus eraill gyda’r nod o ddenu arbenigwyr ym meysydd ymchwil LCEE ac sy’n ymwneud â heriau presennol i Gymru.  

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar gael ar y wefan:www.nrn-lcee.ac.uk

 

 

Booking: 

AM DDIM
Cynghorir archebu ar 01492 868191 neu drwy alw i'r oriel.