Celf, Estheteg, Pensaernïaeth ac Algae

  • Sgwrs

Celf, Estheteg, Pensaernïaeth ac Algae

Sgwrs gan yr Proffesor David Thomas - Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor
23 Mehefin 2018, 1:00pm

Yn aml, bydd pobl yn meddwl bod y byd gwyddonol yn sterilaidd, rheolaidd, cymhleth a dyrys yn bennaf, heblaw i lond dwrn o bobl. Caiff gwymon (algâu) ei ystyried yn gyson fel niwsans drewllyd. I’r gwrthwyneb, mae’r byd celf a dylunio yn greadigol iawn ac yn denu cynulleidfaoedd drwy apelio at ein hemosiynau a’n synhwyrau. Bydd David Thomas yn dangos sut mae’r meysydd hyn, sy’n ymddangos yn dra gwahanol, mewn gwirionedd yn seiliedig ar ysbrydoliaeth debyg – yn aml wedi’u mynegi mewn geiriau gwahanol.

 

Nos Iau 13 Rhagfyr, 7.30pm (derbyniad diodydd am 7pm)

 

Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr

Noddir gan Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd

 

Bydd Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr yn edrych ar amrywiaeth y bywyd yn ein moroedd ni - o facteria i forfilod.

 

Cyflwynir y darlithoedd ar nosweithiau Iau gan chwe gwyddonydd morol blaenllaw sydd i gyd yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd unigol.

 

27 Medi David Thomas: Bywyd tu mewn i bac rhew yn yr Antarctig a’r Arctig

11 Hydref Stuart Jenkins: Ecoleg estroniaid morol a’r rheolaeth arnynt

25 Hydref Lewis LeVay: Ffermio cynaliadwy yn y môr - o fyd-eang i leol

8 Tachwedd Mattias Green: Llanwau, peli eira ac esblygiad

22 Tachwedd Line Cordes: Byd acwstig mamaliaid y môr

6 Rhagfyr Gareth Williams: Archwilio a dysgu oddi wrth y riffiau cwrel mwyaf anghysbell ar y Ddaear

 

 

Hanes MOSTYN - Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol

Yn ystod yr ymchwil ar gyfer y Gyfres Hanes o arddangosfeydd (2014-2017), gwelwyd bod adeilad yr oriel yn gartref i 'Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol' rhwng 1903-1912. Cafwyd rhaglen gynhwysfawr o ddarlithoedd gan siaradwyr o amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys gwyddor môr.

Mae Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr yn galluogi MOSTYN i ddathlu ei threftadaeth ac i ddangos sut mae ymchwil gyfredol mewn gwyddor môr yn ymateb i faterion cyfoes.

 

 

 

 

 

 

 

Gwybodaeth am Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd (NRN-LCEE)

Mae’r NRN-LCEE yn fenter ymchwil fawr, sy’n werth £7M ledled Cymru. Mae’n cefnogi gwaith ymchwil rhagorol ar y rhyngweithio rhwng tir, dŵr a’r broses o ddarparu bwyd a chynhyrchu ynni.  Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n ariannu'r Rhwydwaith drwy Raglen Sêr Cymru ar gyfer denu talent wyddonol i Gymru.

 

Mae’r Rhwydwaith yn ariannu Cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau ymchwil PhD sy’n rhan o ‘Glystyrau Ymchwil’ rhyngddisgyblaethol a chydweithredol Prifysgolion Cymru a phartneriaid eraill, yn ogystal â Chymrodoriaethau ar gyfer ymchwilwyr sy’n dychwelyd i’r byd addysg ar ôl seibiant gyrfa. Mae’r unigolion dawnus hyn yn mynd i’r afael â heriau ymchwil gwahanol sy’n berthnasol i’r gymdeithas ac i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn ogystal â hyn, mae’r Rhwydwaith yn darparu arian datblygu ymchwil ac yn trefnu darlithoedd, gweithdai a digwyddiadau cyhoeddus eraill gyda’r nod o ddenu arbenigwyr ym meysydd ymchwil LCEE ac sy’n ymwneud â heriau presennol i Gymru.  

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar gael ar y wefan:www.nrn-lcee.ac.uk

 

Booking: 

Am ddim (Argymhellir archecbu lle)

Ffôn: 01492868191