Clwb Celf Dydd Sul: Gweithdy Argraffu Damweiniol

Image
  • Gweithgaredd i blant

Clwb Celf Dydd Sul: Gweithdy Argraffu Damweiniol

6 Chwefror 2022, 2:00pm to 3:30pm

Ymunwch â ni am ein clwb celf reolaidd lle gall ein hymwelwyr ieuengaf archwilio eu creadigrwydd a chael eu hysbrydoli gan ein harddangosfeydd.

Yn y sesiwn hon fydd ein tîm dysgu yn tywys eich artistiaid ifanc i arbrofi a chroesawu camgymeriadau gyda dau ddull gwahanol o argraffu, Print Mono ac Argraffu Cerfweddol! Bydd yr artistiaid ifanc yn creu eu print damweiniol eu hunain wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Jacqueline de Jong yn ein prif orielau.

Wedi'i anelu tuag at gyfranogwyr rhwng yr oedran o 6-11. 

Gall rhieni, gwarcheidwaid, neu ofalwyr fynychu'r gweithdy os oes angen heb daliad ychwanegol. Mae’n rhaid i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn a'i oruchwylio.

Gwybodaeth Diogelwch COVID-19

Dyluniwyd y protocolau a’r gweithdrefnau arfer da i sicrhau diogelwch a lles unrhyw grwpiau sy’n ymweld.

  • Os ydych chi'n dangos unrhyw symptomau o COVID-19 peidiwch â mynychu'r gweithdy. Cewch eich ad-dalu os na allwch ddod oherwydd symptomau.
  • Fydd deunyddiau glan yn cael eu defnyddio ym mhob gweithdy i atal traws-halogiad.
  • Cyn ac ar ôl pob gweithdy bydd y Stiwdio Ddysgu yn cael ei glanhau'n drylwyr.
  • Disgwylir i bob ymwelydd defnyddio glanweithydd dwylo wrth gyrraedd a gadael, gan osgoi ysgwyd llaw a chyswllt corfforol, a.y.b.
  • Fydd rhaid i bob ymwelwyr dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb yn yr adeilad. Bydd masgiau wyneb, anfeddygol ar gael am ddim i ymwelwyr sy'n cyrraedd heb orchudd wyneb eu hunain. Mae gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol yn ôl â chanllawiau'r llywodraeth.
  • Cadwch o leiaf 2-metr ar wahân i'ch gilydd i helpu i leihau lledaeniad o COVID-19.

Cysylltwch â ni [email protected] os oes angen mwy o wybodaeth ar ein protocolau COVID-19 neu os hoffech ofyn am gymorth mynediad ychwanegol.

Booking: 

£5 y plentyn

Cyghorir archebu lle Eventbrite