Clwb Celf Dydd Sul: Newid Eich Persbectif

  • Gweithgaredd i blant

Clwb Celf Dydd Sul: Newid Eich Persbectif

Sesiwn Dawel
5 Mehefin 2022, 10:30am to 12:15pm

Ymunwch â ni am ein clwb celf reolaidd lle gall ein hymwelwyr ieuengaf archwilio eu creadigrwydd a chael eu hysbrydoli gan ein harddangosfeydd.

Yn y sesiwn hon bydd ein tîm dysgu yn arwain eich artistiaid ifanc i archwilio gwahanol ffyrdd o weld, ac arbrofi gyda chanfyddiad a thechnegau lluniadu gwahanol! Bydd eich artistiaid bach yn creu amrywiaeth o weithiau celf gyffrous wedi’u hysbrydoli gan arddangosfa Angharad Williams sydd yn ein prif orielau.

Mae’r sesiwn dawel yma wedi cael ei ddylunio ar gyfer plant gydag anghenion ychwanegol, neu blant sy'n well ganddynt weithio mewn lle mwy tawel. Bydd gan bob plentyn bwrdd gwaith eu hunain yn y Stiwdio Ddysgu i fod yn greadigol!

Wedi'i anelu tuag at gyfranogwyr rhwng yr oedran o 6-11.

Gall rhieni, gwarcheidwaid, neu ofalwyr fynychu'r gweithdy os oes angen heb daliad ychwanegol. Mae’n rhaid i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn a'i oruchwylio.

Gwybodaeth Diogelwch COVID-19 ar gyfer Cyfranogwyr Gweithdai, Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr, Sefydliadau Addysgol a Grwpiau Addysgol ar gyfer Ymweliadau ag Oriel MOSTYN.

Dyluniwyd y protocolau a’r gweithdrefnau arfer da i sicrhau diogelwch a lles unrhyw grwpiau sy’n ymweld:

  • Os ydych chi'n dangos unrhyw symptomau o COVID-19 peidiwch â mynychu'r gweithdy. Cewch eich ad-dalu os na allwch ddod oherwydd symptomau.
  • Fydd deunyddiau glan yn cael eu defnyddio ym mhob gweithdy i atal traws-halogiad.
  • Cyn ac ar ôl pob gweithdy bydd y Stiwdio Dysgu yn cael ei glanhau'n drylwyr.
  • Disgwylir i bob ymwelydd defnyddio glanweithydd dwylo wrth gyrraedd a gadael, gan osgoi ysgwyd llaw a chyswllt corfforol, a.y.b.
  • Nid yw orchuddion hwyneb yn ofynnol i ymwelwyr, ond rydym yn cynghori bod pobl dal i’w wisgo yn enwedig o fewn pellter o 2-fetr oddi wrth ei gilydd.

Cysylltwch â ni [email protected] os oes angen mwy o wybodaeth ar ein protocolau COVID-19 neu os hoffech ofyn am gymorth mynediad ychwanegol.

Booking: 

£5 y plentyn

Cyghorir archebu lle Eventbrite