Conference

  • Sgwrs

Conference

21 Medi 2012, 2:30pm to 23 Medi 2012, 2:30pm

Giant Step 2 (Canol yr Ymylon ac Ymylon y Canol)

Pris arbennig newydd ar gyfer cynhadledd y penwythnos yma: £35 penwythnos / £20 un diwrnod

 

Mae’r gynhadledd hon, gynhelir ym MOSTYN, yn edrych ar rôl sefydliadau o fewn diwylliant cyfoes. Down ag artistiaid, curaduron, ymarferwyr credigol ac eraill at ei gilydd i drafod a dadlau sut mae unigolion a sefydliadau yn gallu meithrin ac annog deinameg diwylliannol lleoliad neu gymdeithas, yn enwedig mewn ardaloedd ble nad oes cynulleidfa feirniadol mor amlwg.

Pris £35
Tocyn yn cynnwys: mynediad i ddau ddiwrnod y gynhadledd; derbyniad am 5yh nos Wener gyda gwydriad o win pefriog; bwffe a lluniaeth ar ddydd Sadwrn a Sul; ac ymweliad i Tape Community Music and Film ar nos Sadwrn.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys: Annie Fletcher (Van Abbemuseum), Fernando Garcia-Dory (artist a gweithredwr), James Green (Cyfarwyddwr, Newlyn Art Gallery), Michele Horrigan (artist a Chyfarwyddwr Askeaton Celfyddydau Cyfoes), Alistair Hudson (Grizedale Arts), John Plowman a Nicola Streeten (Cyfarwyddwyr, Beacon Art Project), Pete Telfer (Culture Colony).

 

 

 

Booking: 

Am ragor o wybodaeth am y gynhadledd, cysylltwch â [email protected]. I archebu lle, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01492 868 191.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, archebwch yn gynnar.