Creaduriaid rhyfeddol a ble i ddod o hyd iddynt


Dr. Siobhan Vye o Brifysgol Bangor
  • Cyfres Hanes

Creaduriaid rhyfeddol a ble i ddod o hyd iddynt


Archwilio’r lan gyda’n prosiect Capturing our Coast
6 Awst 2016, 2:00pm
Sgwrs â darluniau gan Dr Siobhan Vye o Brifysgol Bangor
 
i gyd-fynd â’r arddangosfa Yr Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol ym MOSTYN, Llandudno
 
O grancod a blodau'r gwynt i wyddau’r môr a gwichiaid, dysgwch fwy am yr amrywiaeth o fywyd sy’n gorwedd ynghudd yn ein glannau, a sut mae gwyddonwyr yn astudio’r ecosystemau unigryw hyn. Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno creaduriaid y glannau creigiog a’r nodweddion unigryw sy’n eu galluogi i oroesi mewn amgylchedd garw. Bydd yn disgrifio sut mae prosiect cenedlaethol, Capturing our Coast, yn ennyn y cyhoedd i weithio gyda gwyddonwyr er mwyn deall yn well sut bydd ein glannau yn ymateb i newid amgylcheddol.
 
Mae Capturing our Coast yn brosiect sy’n anelu i ddysgu rhagor am y rhywogaethau sy’n byw yn ein moroedd a sut gallwn ni eu diogelu. Mae aelodau o’r cyhoedd a gwyddonwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gasglu gwybodaeth am rywogaethau morol ar hyd ein harfordiroedd trawiadol yn y DU.
 
 

Booking: 

Tocynnau £4 o siop MOSTYN
 
Argymellir archebu lle.
 
01492 868191