- Sgwrs
Cwrdd â'r Gwneuthurwr: Mizuki Takahashi
Cwrdd â'r Gwneuthurwr: Mizuki Takahashi
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 8fed Chwefror yn siop MOSTYN i gael cyfle unigryw i gwrdd â'r gemydd Mizuki Takahashi.
Mae Mizuki yn artist gemwaith cyfoes, sydd wedi ennill gwobrau, ac yn byw ac gweithio yn Swydd Gaerwrangon, ar ôl graddio o Goleg Celfyddydau Henffordd.
Bydd Mizuki yma i ateb cwestiynau a dangos i chi rai o'i hysbrydoliadau, lluniadau a'i samplau, modelau papur, a siarad â chi am y broses a'r syniadau y tu ôl i'w gemwaith.
Digwyddiad galw heibio am ddim yw hwn, nid oes angen archebu lle.
Dewch draw unrhyw bryd rhwng: 11yb - 1yp a 2yp - 5yp
Am dan Mizuki:
Wedi eu geni yn Ibaraki, Japan ym 1985, graddiodd Mizuki o Goleg Celf a Chrefft Akita Municipal mewn Dylunio Gweledol. Ar ôl hynny, dechreuodd wneud gemwaith a chwilio am amgylchedd newydd symudodd i Henffordd y DU yn 2011 i astudio a graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Dylunio Gemwaith.
Mae holl greadigaethau gemwaith Mizuki yn ddarnau unigryw. Mae'n creu patrymau marciau unigryw ar arwynebau copr cain enamlog gan ddefnyddio'r dechneg sgraffito. Mar ffasninau arian-ddu wedi'i ocsidio ar gyfer pob elfen enamlog wedi'i chynllunio'n ofalus a'u gwneud a llaw gan Mizuki.
Mae gemwaith Mizuki ar gael i'w brynu trwy siop MOSTYN.
Mae'r digwyddiad yn bosibl diolch i gefnogaeth The Great Britain Sasakawa Foundation.
Booking:
This is a FREE Drop-in event with no need to book.