Cyflwyniad i dorluniau leino gyda Nigel Morris

Nigel Morris
Nigel Morris
  • Gweithdy

Cyflwyniad i dorluniau leino gyda Nigel Morris

Gweithdai creadigol i oedolion
1 Gorffennaf 2018, 10:30am to 4:00pm

Bydd y gwneuthurwr print Nigel Morris yn cyflwyno'r broses o greu torluniau leino. Yn ystod y sesiwn, byddwch yn dysgu am gerfio drwy ddefnyddio offer torluniau leino, ac yn gweithio gyda leino meddal i gynhyrchu eich plât eich hun ar gyfer argraffu. Bydd Nigel yn dangos y broses o ddefnyddio inc a’r broses argraffu - gan ddefnyddio dulliau argraffu â llaw a gwasg argraffu. Yna bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn defnyddio inciau y gellir eu golchi’n ddiogel a thechnegau argraffu i argraffu eu delwedd derfynol.

Darparir yr holl ddeunyddiau, a fyddech gystal â dod ag unrhyw ddeunydd ffynhonnell, darluniadau neu ysbrydoliaeth yr hoffech weithio ohonynt gyda chi.

Ni fydd angen unrhyw brofiad blaenorol.

£45 yr pen. 

Booking: 

Mae archebu'n hanfodol, cysylltwch â'n siop dydd Mawrth - dydd Sul 10.30yb - 5.00yp.

01492 868191 neu [email protected]