Cyflwyniad i Dorri Papur gyda Chlöe Augusta Needham

Chlöe Augusta Needham
Chlöe Augusta Needham
  • Gweithdy

Cyflwyniad i Dorri Papur gyda Chlöe Augusta Needham

Gweithdai i oedolion
3 Tachwedd 2019, 10:30am to 4:00pm

Gweithdy rhagarweiniol lle byddwch yn dysgu'r sgiliau a'r technegau sydd eu hangen i greu gwaith celf wedi'i dorri ar bapur. Drwy'r dydd byddwch yn datblygu eich sgiliau i dorri papur, yn codi'ch hyder wrth ddefnyddio'r offer perthnasol, ac yn cael profiad dan arweiniad sy'n archwilio elfennau o ddylunio patrymau a ffurfiau darluniadol. Byddwch yn creu gwaith celf wedi'i dorri i mewn i bapur yn ystod y gweithdy ac yn gadael efo digon o brofiad ymarferol i wneud creadigaethau anhygoel o'ch cartref chi.

Darparir yr holl ddeunyddiau, a fyddech gystal â dod ag unrhyw ddeunydd ffynhonnell, darluniadau neu ysbrydoliaeth yr hoffech weithio ohonynt gyda chi.

Ni fydd angen unrhyw brofiad blaenorol.

£45 yr pen (Myfyrwyr £40)

Booking: 

Mae archebu'n hanfodol, cysylltwch â'n siop dydd Mawrth - dydd Sul 10.30yb - 5.00yp.

01492 868191 neu [email protected]

Archebu ar-lein trwy Eventbrite

Polisi ad-dalu ar gael yma