Cyflwyniad i Encaustic gyda Susie Liddle

Susie Liddle
Susie Liddle
  • Gweithdy

Cyflwyniad i Encaustic gyda Susie Liddle

Gweithdai i oedolion
29 Mehefin 2019, 10:30am to 4:00pm

Mae'r gweithdy hwn yn gyflwyniad i'r hen gelf o baentio encaustic, neu paentio gyda cwyr poeth/llosgliw. Mae'n cynnwys defnyddio cyfrwng llosgliw sydd wedi’i baratoi yn barod â cwyr gwenyn a resin damar a phigment lliw. Yna caiff y cwyr neu llosgliw ei osod i arwyneb cynhes – fel rheol, pren a baratowyd ac yna'n cael ei ymdoddi â gwres.

Bydd gan gyfranogwyr fynediad at ddau ofod gwaith 'boeth' ar gyfer cwyr ac ar gyfer ymdoddi’r haenau cwyr gyda gynnau aer poeth. Bydd gan bob cyfranogwr ei ofod unigol eu hunain ynghyd â gofod i ddarparu’r defnydd grŵp fel pasteli, stensiliau, effemera.

Bydd y diwrnod yn cynnwys arddangosiadau o ffyrdd o osod y cwyr ac o ymdoddi’r cwyr a thechnegau amrywiol o greu lliw a gwead llinell o dan, yno ac uwchben y cwyr llosgliw, gyda'r cyfranogwyr yn ymarfer ar fyrddau sampl bach. Yn dilyn hyn, bydd y cyfranogwyr yn gweithio'n rhydd ar fwrdd mwy gan ddefnyddio’r technegau a ddysgwyd yn gynharach yn y dydd. Os yw amser yn caniatau, dangosir technegau pellach os oes angen.

Byddwn yn defnyddio byrddau bach yn y bore: Maint 5ins x 5ins (12.7 x 12.7cms) 5 y person.

Bydd gan bob cyfranogwr fwrdd mawr Yn y prynhawn: Maint 9ins x 9ins (22.8 x 22.8cms) 1 y pen (byrddau ychwanegol ar gael i'w prynu'n uniongyrchol gan Susie).

Darparir yr holl ddeunyddiau, a fyddech gystal â dod ag unrhyw ddeunydd ffynhonnell, darluniadau neu ysbrydoliaeth yr hoffech weithio ohonynt gyda chi.

Pethau efallai y byddwch eisio ddod gyda chi

Ffedog.

Llyfr nodiadau neu lyfr braslunio.

Sgrifell neu offer tebyg i grafu marciau i'r cwyr.

Nib Pen os hoffech dynnu lluniau ar y cwyr gydag inc India (darperir inciau).

Unrhyw ddelweddau, papurau neu ddarnau eraill o effemera yr hoffech eu gludo i'ch gwaith.

Mae lliw neu ddu a gwyn yn iawn ac mae unrhyw ddull argraffu yn iawn. Ceisiwch osgoi delweddau sgleiniog a phapur trwchus. Os yw rhywbeth yn werthfawr, yn rhy drwchus neu ddim yn amsugnol yna ei orau i lungopïo nhw ee ffotograffau.

Delweddau i'w trosglwyddo i'r arwyneb cwyr. RHAID i'r rhain fod yn brint laser neu'n llungopïau. Nid yw jet inc yn gweithio ar gyfer trosglwyddo. Delweddau du a gwyn syml sydd orau er y bydd lliw hefyd yn gweithio. Efallai y bydd angen troi'ch delwedd gan y bydd yn trosglwyddo yn ôl. Mae hyn yn bwysig os oes testun yn cael ei ddefnyddio. Cofiwch gofio maint y byrddau y byddwn yn eu defnyddio wrth ddewis delweddau. Darperir byrddau.

Ni fydd angen unrhyw brofiad blaenorol.

£65 yr pen [Myfyrwyr £60]

Booking: 

Mae archebu'n hanfodol, cysylltwch â'n siop dydd Mawrth - dydd Sul 10.30yb - 5.00yp.

01492 868191 neu [email protected]

Archebu ar-lein trwy Eventbrite

Polisi ad-dalu ar gael yma