- Gweithdy
Cyflwyniad i Rithwirionedd
Bydd yr arlunydd a’r technolegydd, Charles Gershom, yn cyflwyno dyfodol rhithwirionedd mewn gweithdy am ddim i bobl rhwng 15 a 25 oed.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau gan arlunwyr a fydd yn arwain yn y pen draw at benwythnos gŵyl rhad ac am ddim ‘GLITCH’ yn yr oriel fis Hydref. Bydd y gwrthrychau a gaiff eu creu yn ystod y sesiwn yn rhan o’r arddangosfa a gynhelir yn ystod ‘tymor gŵyl’ yr oriel, sy'n dechrau yn LLAWN - Penwythnos Celfyddydau Llandudno - o 23ain Medi ymlaen.
Mae’r gweithdy am ddim i bobl rhwng 15 a 25 oed.
Mae Circuit yn rhaglen genedlaethol bedair blynedd sy'n cysylltu pobl ifanc 15-25 oed â'r celfyddydau mewn orielau ac amgueddfeydd sy'n gweithio ar y cyd â'r sector pobl ifanc a diwylliant. Caiff y rhaglen ei harwain gan Tate a'i hariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn, ac mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc lywio'r hyn y maen nhw'n ei ddysgu a chreu gweithgareddau diwylliannol ar draws y disgyblaethau celf.