- Sgwrs
Darlithoedd Golau Gaeaf
Taith o amgylch Gogledd Cymru yn y 18fed ganrif - gan Andrew Hiscock
14 Rhagfyr 2019, 4:00pm
Fel rhan o ddigwyddiad Golau Gaeaf, rydym yn cyflwyno darlith AM DDIM gan yr Athro Andrew Hiscock (Prifysgol Bangor).
Taith o amgylch Gogledd Cymru yn y 18fed ganrif
Mae’r ddarlith hon yn sôn am y profiad o deithio yng Ngogledd Cymru rhwng sir y Fflint a Gwynedd yn y 18fed ganrif, ac yn rhoi cipolwg annisgwyl ar drefi a lleoliadau cyfarwydd. Roedd un o'r teithwyr yn enwog ledled y wlad ar y pryd – dewch draw i gael gwybod pwy oedd y teithiwr, a beth oedd barn y cyd-deithwyr am Ogledd Cymru.
Bydd yr orielau, y siop a’r caffi ar agor tan 7.00pm