
- Gweithdy
Darlunio Chwedlonol gyda Collette J. Ellis
Ar gyfer y gweithdy hwn, mi fydd ymarferion arlunio bwystfilod/chwedlonol yn cael eu generadu ar hap, cyfansoddiadau man-lunio, hyfforddiant mewn technegau dyfrlliw a datblygiad gwaith gorffenedig, yn seiliedig ar greaduriaid a llen gwerin Cymru,
Tsieina a thu hwnt! Mae gan Collette radd dosbarth meistr mewn Dylunio Cyswllt ac mae wedi teithio i Tsieina i ymchwilio chwedlau dreigiau. Dylanwadodd a sbardunodd hyn arddangosfeydd, tair sioe galeri unigol, a llwyddiant yn lansio dau lyfr am chwedloniaeth Cymraeg ac ei llyfr brasluniau ar kickstarter. Mae brwdfrydedd Collette yn heintus, ac erbyn diwedd y sesiwn, mi fyddwch chithau hefyd wedi gwirioni ac wedi disgyn mewn cariad hefo’r dreigiau!
£12.50 y gweithdy neu £50 am y pum gweithdy.
Mae’r holl ddeunyddiau ar gael a wedi eu cynnwys yn y bris.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191.