Dawnsiau, Ffynhonnau a Chwedlau Gothig

llun Tristian Evans
  • Noswaithiau

Dawnsiau, Ffynhonnau a Chwedlau Gothig

Perfformiad amlgyfrwng o weithiau Maurice Ravel i’r piano gan Tristian Evans
17 Mehefin 2017, 7:30pm

I gyd-fynd â'n arddangosfa WAGSTAFF'S bydd Tristian Evans yn perfformio 'Dawnsiau, Ffynhonnau a Chwedlau Gothig' sy'n cyfuno cerddoriaeth Maurice Ravel i'r piano â delweddau llonydd a symudol fydd yn cael eu taflunio, yn seiliedig ar y themâu a ysbrydolodd y cyfansoddwr.

Mae'r themâu'n cynnwys mathau o ddawnsfeydd, ffynhonnau Versailles a chwedlau a barddoniaeth Ffrangeg o gyfnod rhamantaidd a symbolaidd y 19eg ganrif. 

Drysau ar agor 6.30yh
Bar trwyddedig / Siop / Oriel ar agor 6.30yh

Booking: 

£15 y tocyn

£12 consesiynau i bobl dros 60 oed, myfyrwyr a myfyrwyr ysgol.

Cynghorir archebu

[email protected]

01492868191