- Gweithdy
Dod a Chelf yn Fyw gyda Elly Strigner
Oherwydd ei brwdfrydedd tuag at arlunio, torri a phastio, lliwiau a siapiau, llythrennedd, printio, breuddwydio, dwdlo, ysgrifennu a darllen, mae Elly yn arbenigo mewn animeiddio, dylunio, ysgrifennu a llyfr wneuthuriad. Mae ei angerdd tuag at wneud a symud ei chreadigaethau i adrodd stori yn gyrru ei gwaith celf, ac mi fydd hyn bendant yn dod i’r amlwg yn ei gweithdy.
Mi fydd y gweithdy ei hun yn dechrau gyda dylunio cymeriadau a golygfeydd maent yn gallu creu bwrdd straeon allan ohonynt. Caiff rhain wedyn eu trawsnewid mewn i olygfeydd wedi’i animeiddio trwy ddefnyddio techneg stop-frame paper cut-outs, tynnu lluniau yn ddi-stop, ffrâm wrth ffrâm ac yna ychydig o claymation (os ydych awydd creu rhywbeth 3D yn hytrach na 2D).
£12.50 y gweithdy neu £50 am y pum gweithdy.
Mae’r holl ddeunyddiau ar gael a wedi eu cynnwys yn y bris.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau.
Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191.