
- Digwyddiad Digidol
Dylan Huw: Presennols
Mae MOSTYN yn cyflwyno cyfres o gomisiynau ysgrifenedig newydd gan artistiaid ac ysgrifenwyr sy'n mynd i'r afael â rhai o'r themâu cyffredin a archwiliwyd ym mhob rhaglen dymor.
Mae Dylan Huw yn sgwennwr sy'n byw yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd mae'n Sgwennwr Preswyl gyda Jerwood Arts, a llynedd enillodd Ysgoloriaeth Geraint George. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys rhifyn print cyntaf mwnwgl, platfform ar gyfer sgwennu/celf wreiddiol yn Gymraeg ac ieithoedd Cymreig eraill; rhifyn pedwar Cynfas, cylchgrawn digidol Amgueddfa Cymru, dan y teitl 'golwg queer'; ac ululations, cyhoeddiad dwyieithog o sgwennu newydd yn ymateb i arddangosfa Alberta Whittle gyda Peak Cymru, y mudiad celfyddydol wedi'i leoli yn y Mynyddoedd Duon, lle mae Dylan wedi bod yn rhan o'r tîm creadigol ers gwanwyn 2020. Mae ganddo BA mewn Celfyddydau Rhyddfrydol o goleg King's, Llundain (2017), ac MA mewn Theori Celf Gyfoes o Goldsmiths, Prifysgol Llundain (2018).