- Gweithdy
Ffotograffiaeth Cemegol gyda Richard Cynan Jones
Yn ystod y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu sut i lunio camera pindwll o ddeunyddiau wedi’i ailgylchu ac archwilio'r posibiliadau creadigol o ffotograffiaeth low-fi.
Dysgwch sut i wneud amlygiad prawf gyda negyddion papur. Yna, defnyddiwch eich camerâu o waith llaw i dynnu lluniau, caiff wedyn eu datblygu mewn ystafell tywydd (gallwch ddysgu sut i wneud ar gyfer y dyfodol). Yna, cewch fynd a’ch camera pindwll a dau negatif adra hefo chi!
Artist a ffotograffydd yw Richard Cynan Jones yn arbenigo mewn prosesau ffotograffiaeth o’r 19eg ganrif a chyfryngau gweledol cynnar Mae’n defnyddio gwahanol dechnegau, gan gynnwys proses collodion gwlyb, arlunio ffotojenic, printio papur hallt ac y calotype. Mae Richard wedi gweithio gyda’r Fox Talbot Museum a’i waith wedi’i arddangos ar sawl cyfres BBC, ac mi fydd o’n rhannu’r holl driciau mae o wedi dysgu ei hun dros y blynyddoedd.
£12.50 y gweithdy neu £50 am y pum gweithdy.
Mae’r holl ddeunyddiau ar gael a wedi eu cynnwys yn y bris.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau.
Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191.