Gig Gwyl GLITCH ym MOSTYN

  • Gŵyl

Gig Gwyl GLITCH ym MOSTYN

Omaloma / Palenco / Bwncath
14 Hydref 2016, 6:00pm

Bydd y bandiau lleol Omaloma, Palenco a Bwncath yn perfformio yn ystod noson agoriadol yr ŵyl, sef nos Wener 14 Hydref, yn oriel MOSTYN, Stryd Vaughan - 6.00pm - 11.00pm

Mae Gŵyl GLITCH yn digwydd ym MOSTYN a'r ardal gyfagos yn Llandudno ar 14-16 Hydref 2016. Bydd yno gerddoriaeth fyw, ffilmiau, arddangosfeydd rhyngweithiol, gweithdai creadigol a chaffi/bar. 

Trefnir yr ŵyl gan Gyweithfa GLITCH, grŵp o bobl ifanc arloesol rhwng 15 a 26 oed o Ogledd Cymru sy'n cwrdd bob wythnos yn yr oriel yn Llandudno. Mae Cyweithfa GLITCH yn rhan o Circuit, sy'n cael ei arwain gan Tate a'i ariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn.

Mynediad RHAD AC AM DDIM. Mae'r niferoedd yn gyfyngedig felly dewch a chael band arddwrn oddi wrth MOSTYN o 2pm ar ddiwrnod y gig. Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01492 879201.