Sean Parry
- Noswaithiau
Golau Gaeaf: Sean Parry o Sacred Knot Tattoo
Perfformiad o gerddoriaeth geltaidd dywyll yn y caffi
14 Rhagfyr 2019, 5:30pm
Fel rhan o Golau Gaeaf (Pennod 2) bydd Sean Parry o Tatŵ Cwlwm Sanctaidd yn perfformio yn y caffi am 5.30yh. Bydd Sean yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg, wedi'i hysbrydoli gan hanes a mytholeg leol, ar delyn a drwm. Mae cerddoriaeth Sean wedi cael ei disgrifio fel 'Gwerin gyn-Gristnogol Geltaidd Dywyll', ac mae o wedi perfformio ar draws y byd. Yn ddiweddar yn dychwelyd yn ôl i'w dref enedigol i fyw a gweithio, bydd Sean yn rhannu ei ganeuon gyda ni i fyny'r grisiau yn Caffi Oriel.
Mae mynediad am ddim. ER SYLW: Nid oes yna docynnau ar gyfer y digwyddiad hwn felly nid oes angen cofrestru. Mae yna cynhwysedd cyfyngedig yn ein caffi felly byddem yn eich cynghori i gyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi siomedigaeth.
Bydd yr orielau, y siop a’r caffi ar agor tan 7.00yh.
Dewch i mewn i fwynhau'r gerddoriaeth gyda diod gynnes, stiw sbeislyd neu gawl neu ddiferyn o win cynnes cyn mwynhau'r sioe Golau Gaeaf ar Stryd Mostyn a fydd yn rhedeg tan 8yh.
Dewch i mewn i fwynhau'r gerddoriaeth gyda diod gynnes, stiw sbeislyd neu gawl neu ddiferyn o win cynnes cyn mwynhau'r sioe Golau Gaeaf ar Stryd Mostyn a fydd yn rhedeg tan 8yh.