Gweithdy Breichled Arian Gweadol gyda Karen Williams

  • Gweithdy

Gweithdy Breichled Arian Gweadol gyda Karen Williams

Gweithdai i oedolion
29 Medi 2018, 10:30am to 4:00pm

Bydd y gweithdy yn dechrau drwy arbrofi gyda chopr, cyn symud ymlaen i weithio gydag arian. Drwy gydol y dydd, byddwch yn archwilio gwead drwy forthwylio, defnyddio pynshiau a boglynnu gyda gwifren. Bydd Karen wedyn yn eich tywys drwy'r camau olaf i gwblhau eich breichled, gan gynnwys ffurfio, sodro arian a gloywi er mwyn cael sglein ychwanegol.

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn creu un freichled gopr, a byddwch yn gallu gwneud un o'r canlynol mewn arian:

* Un freichled drom

* Un freichled o bwysau canolig ac un freichled denau

* Tair breichled denau

[Am dâl ychwanegol, mae yna opsiwn i brynu gwifren arian ychwanegol yn uniongyrchol wrth Karen]

Darparir yr holl ddeunyddiau, a fyddech gystal â dod ag unrhyw ddeunydd ffynhonnell, darluniadau neu ysbrydoliaeth yr hoffech weithio ohonynt gyda chi.

Ni fydd angen unrhyw brofiad blaenorol.

£65 yr pen. 

Booking: 

Mae archebu'n hanfodol, cysylltwch â'n siop dydd Mawrth - dydd Sul 10.30yb - 5.00yp.

01492 868191 neu [email protected]