- Gweithdy
Gweithdy fodrwyau stacio arian gyda Karen Williams
Crëwch gasgliad o fodrwyau stacio gan ddefnyddio gwifren arian o wahanol siapiau a meintiau. Byddwch yn arbrofi gyda pwnshis a gwifren i greu gweadau cyferbyniol, gyda chopr i ddechrau cyn gweithio mewn arian. Bydd y gweithdy ymarferol yn eich cyflwyno i dechnegau gwneud gemwaith sylfaenol gan gynnwys llifio, ffurfio a sodro arian.
Darparir yr holl ddeunyddiau, a fyddech gystal â dod ag unrhyw ddeunydd ffynhonnell, darluniadau neu ysbrydoliaeth yr hoffech weithio ohonynt gyda chi.
[Am dâl ychwanegol, mae yna opsiwn i brynu gwifren arian ychwanegol yn uniongyrchol wrth Karen]
Ni fydd angen unrhyw brofiad blaenorol.
£65 yr pen [Myfyrwyr £60]
Booking:
Mae archebu'n hanfodol, cysylltwch â'n siop dydd Mawrth - dydd Sul 10.30yb - 5.00yp.
01492 868191 neu [email protected]
Archebu ar-lein trwy Eventbrite
Polisi ad-dalu ar gael yma