Gweithdy Gildio Copr (1)

workshop image
Sïan Rees Astley
  • Gweithdy

Gweithdy Gildio Copr (1)

gyda'r artist Sïan Rees Astley
13 Hydref 2019, 10:30am to 1:30pm
Mewn cysylltiad â'r prosiect cyfnewid artist 'Making Marks: Creating Connections from Britain to Kuwait'
 
Mae hwn yn weithdy dwy ran sy'n archwilio technegau goreuro ar ffurfiau cerfluniol. Yn y gweithdy cyntaf byddwch yn creu eich ffurfiau / gwrthrychau cerfluniol eich hun allan o glai. Yn yr ail weithdy byddwch yn goreuro'r gwrthrychau hyn gan ddefnyddio copr - gallwch hefyd ddod â'ch gwrthrychau eich hun gyda chi i arbrofi.
 
Bydd angen i'r cyfranogwyr fynychu'r ddau weithdy. Nid oes angen profiad blaenorol.
 
***
Mae Sïan Rees Astley (g.1992) yn arlunydd, wedi'i eni a'i leoli yng Ngogledd Cymru.
Mae trawsnewid ac ailadrodd yn brosesau allweddol yn ei gwaith; mae deunydd yn cael ei goladu, ei dynnu a'i drawsnewid i greu rhywbeth sydd wedi'i symud o'i gyflwr cychwynnol fel ei fod yn anadnabyddadwy, ac eto mae ei bresenoldeb yn ddiymwad yn gofyn ichi edrych eto.

Booking: 

AM DDIM
Archebu hanfodol.
neu drwy siop MOSTYN ar  01492 868191 (yn ystod oriau agor)