
- Gweithdy
Gweithdy tlws crog arian gweadol gyda Karen Williams
Dylanwadir ar waith Karen gan y ffurfiau naturiol a geir ar hyd lan y môr. Byddwch yn cymryd ffynonellau tebyg i ysbrydoli'ch tlws crog ac i archwilio gwneud marciau mewn metel. Mae croeso i chi ddod â'ch trysor eich hun - pod hadau, dail neu bethau o'r traeth neu ddefnyddio rhywbeth o gasgliad Karen.
I ddechrau, byddwch yn arbrofi gan ddefnyddio copr ac archwilio amrywiaeth o dechnegau gweadu. Yna byddwch yn datblygu eich dyluniad mewn arian; gyda llawer o forthwylio, ac yna llifio ar y fainc a sodro arian i gwblhau eich tlws crog.
[Am dâl ychwanegol, mae yna opsiwn i brynu arian ychwanegol yn uniongyrchol wrth Karen]
Darparir yr holl ddeunyddiau, a fyddech gystal â dod ag unrhyw ddeunydd ffynhonnell, darluniadau neu ysbrydoliaeth yr hoffech weithio ohonynt gyda chi.
Ni fydd angen unrhyw brofiad blaenorol.
£65 yr pen. [Myfyrwyr £60]
Booking:
Mae archebu'n hanfodol, cysylltwch â'n siop dydd Mawrth - dydd Sul 10.30yb - 5.00yp.
01492 868191 neu [email protected]
Archebu ar-lein trwy Eventbrite
Polisi ad-dalu ar gael yma