Gweithgareddau ar Gyfer Pobl Ifanc ym Mis Awst

  • Gweithgaredd i blant

Gweithgareddau ar Gyfer Pobl Ifanc ym Mis Awst

1 Awst 2013, 10:30am to 30 Awst 2013, 2:30pm

Yn ystod yr haf, byddwn yn cynnal gweithgareddau ynghyd å‘n harddangosfa Annwyl Bortread, gyda dosbarthiadau, gwiethdai ac adnoddau sy’n eich galluogi i archwilio genre portreadu trwy ddosbarthiadau tywys ac ar eich liwt eic hun.

Dosbarthiadau meistr mewn portreadu dan arweiniad artist
Ymunwch â artist proffesiynol i archwiliio mathau wahanol o bortreadu. Pob wythnos byddwch yn cael eich harwain i gymryd rhan mewn gwahanol agweddau sef cerflunio, tecstiliau, animeiddio a darlunio. Yn cynnwys deunyddiau. Rhagarchebu’n angenrheidiol. I archebu lle galwch 01492 879201.

Oedrannau 6 – 1- (Dydd Mawrth)
11.00yb – 1.00 yp £5 y sesiwn
2.00 yp – 4.00yp £5 y sesiwn

Oedrannau: 11 – 14 (Dydd Mercher)
11.00yb – 4.00yp £10 y sesiwn

Oedrannau: 15 – 25 (Dydd Iau)
11.00yb – 4.00yp AM DDIM

Gweithgareddau ‘taro heibio’ i’r teulu oll
I blant a’u hoedolion
I blant o 3 oed+
2-4pm Dydd Gwener a Dydd Sadwrn
£2 y plentyn

Pecyn Portread yr Arlunydd
I blant o 3 oed+
Ar gael yn ddyddiol
£1 y plentyn

 

Booking: 

Am fwy o fanylion, neu i archebu lle ffoniwch01492 879201 neu anfonwch ebost i[email protected]