- Sgwrs
Gwneud i gelf ysgrifennu: gofodau mewn orielau fel ysbrydoliaeth i ysgrifennu
Gallai’r syniad am eich nofel nesaf fod cyn agosed ag oriel MOSTYN. Mae’r gweithdy ysgrifennu creadigol rhyngweithiol hwn yn canolbwyntio ar gynhyrchu syniadau ar gyfer ffuglen a barddoniaeth. Drwy ddeall yn gyntaf, sut yr ydym ni fel unigolion yn trefnu ein byd yn straeon, gallwn ddefnyddio propiau ac ysgogiadau i gydweithio gyda’r gelfyddyd o’n cwmpas a chynhyrchu syniadau arloesol o ran ysgrifennu creadigol. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol. Darperir papur a phinnau ysgrifennu.
Cyfres o ddarlithoedd ‘Lle mae celf a geiriau’n cwrdd’
Beth yw llenyddiaeth? Beth yw celf? Beth yw prydferthwch? Mae’r berthynas rhwng arlunydd, awdur, a chynulleidfa yn llawn disgwyliadau anesmwyth o ran canfod ‘ystyr’. Fodd bynnag, mae llenyddiaeth a chelf yn ffynnu mewn mannau lle y mae celf a geiriau’n cwrdd, a lle bydd ystyr yn rhwygo ar agor i ddatgelu bydoedd gwahanol a dulliau gweithredu newydd. O fwrw golwg hanesyddol ar drais mewn llenyddiaeth, i'r mannau lle y mae elfennau naratif yn troi’n dapestrïau digidol, mae geiriau’n cyfnewid eu hystyr i ddod yn synau, a phersbectif yn ail-lunio dulliau creadigol i ddod yn gelfyddyd newydd.
Mae’r gyfres hon o ddarlithoedd yn archwilio celf a llenyddiaeth fel mannau rhyngweithiol ar gyfer gofyn cwestiynau yn hytrach na gorfodi ystyr.
Booking:
AM DDIM
Argymhellir archebu lle drwy ffonio 01492 868191 neu ymweld â'r oriel