- Adnoddau Dysgu
Jacqueline de Jong - Gweithgareddau The Ultimate Kiss
I gyd-fynd â'n harddangosfa The Ultimate Kiss gan Jacqueline de Jong mae'r Tîm Dysgu ym MOSTYN wedi cynhyrchu pecyn gweithgaredd i'n hymwelwyr ifanc, grwpiau teuluoedd ac ysgolion. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys gweithgareddau a ysbrydolwyd gan ddull mynegiadol yr artist at baentio a'i defnydd o Dérive (drifftiau), ffordd o feddwl yn rhydd a symud yn gorfforol trwy wahanol sefyllfaoedd.
Mae'r pecynnau hyn ar gael yn y Gymraeg a Saesneg ac maent ar gael am ddim yn y Stiwdio Ddysgu ym MOSTYN a gellir eu lawrlwytho hefyd fel ffeiliau PDF i chi eu hargraffu o'ch cartref.
Lawrlwythwch y pecyn gweithgareddau
Cadwch yn Ddiogel
Mae'r Pecynnau Adnoddau Dysgu wedi'u datblygu yn unol â chanllawiau diogelwch Covid-19. Mae'r pecynnau sydd ar gael o'r oriel yn cynnwys nifer gyfyngedig o bensiliau lliw a fydd yn cael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr rhwng defnyddiau. Pan fyddwch wedi gorffen gyda'r pecynnau, dychwelwch bensiliau i'r ddesg a glanweithio'ch dwylo cyn ac ar ôl defnyddio.