- Gweithgaredd oddi ar y safle
Katie Paterson: First There is a Mountain
First There is a Mountain - Traeth Penmorfa Llandudno mewn cydweithrediad â'r artist
Dydd Sadwrn 19 Mai 2019 - 4.30yp - 6.30yh
Man Cyfarfod: Pwll Cychod, Traeth Penmorfa, Llandudno
Katie Paterson: First There is a Mountain o Katie Paterson ar Vimeo.
Rydym yn falch o fod yn un o 25 leoliad celfyddydol sy'n cydweithio ar ddigwyddiad cyfranogi cenedlaethol a fydd yn cael ei gynnal ar hyd arfordir y DU dros gyfnod yr Haf Prydeinig 2019.
Bydd y prosiect yn ymweld â Thraeth Penmorfa yn Llandudno ar brynhawn Sul 19 Mai a dyma'r chweched safle yn y gyfres o ddigwyddiadau sy'n dechrau yn Whitstable, Caint ac yn teithio drwy Gernyw, Ynys Wyth a De Cymru ar ei ffordd i Ogledd Cymru.
The events are part of artist Katie Paterson's 'First There is a Mountain' artwork which involves the building of miniature sand mountain replicas of some of the world's most famous mountains using specially designed sets of 'buckets and spades'. Each set includes a scale model of Mount Kilimanjaro (Africa), Mount Shasta (USA), Mount Fuji (Asia), Stromboli (Europe), and Uluru (Oceania).
Mae'r digwyddiadau yn rhan o waith celf 'First There is a Mountain' arlunydd Katie Paterson sy'n cynnwys adeiladu atgynhyrchiadau o fynyddoedd tywod bach o rai o fynyddoedd enwocaf y byd gan ddefnyddio setiau arbennig o 'fwcedi a rhaw'. Mae pob set yn cynnwys model graddfa o Mount Kilimanjaro (Affrica), Mount Shasta (UDA), Mount Fuji (Asia), Stromboli (Ewrop), a Uluru (Ynysoedd y De). Gwahoddwyd grwpiau lleol i gymryd rhan mewn creu'r mynyddoedd tywod ar y traeth, gyda'u cyfranogiad unigryw ym mhob lleoliad yn hanfodol i esblygiad y gwaith celf a'r profiad cyffredinol. Gwahoddir y cyhoedd hefyd i wylio'r gwaith celf yn datblygu ac yn ddiweddarach i'w weld yn cael ei olchi i ffwrdd gan y llanw.
Comisiynwyd 25 darn newydd o ysgrifen i gyd-fynd â thaith y gwaith celf, un ar gyfer pob lleoliad. Bydd y testunau yn ffurfio blodeugerdd ddigidol, gan ddod ag ysgrifen gan awduron clodfawr, beirdd, daearegwyr, gwyddonwyr y ddaear, ecolegwyr ac ysgrifenwyr celf ynghyd. Mae Ian Vince, yr awdur, y darlledwr a'r colofnydd, wedi cynhyrchu darn am dreftadaeth ddaearegol a diwydiannol y mynyddoedd cyfagos a bydd yn darllen hwn yn uchel i'r gynulleidfa fel rhan o'r digwyddiad yn Llandudno. Bydd athro Ysgol Tudno, Derfel Thomas, yn darllen fersiwn Gymraeg o'r testun.
“Mae'n wych bod yn rhan o brosiect cenedlaethol gyda'r arlunydd Katie Paterson ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth all cyfranogwyr Llandudno ei wneud. Rydym yn ffodus o gael traeth mor hardd â Thraeth Penmorfa a bydd hwn yn lleoliad perffaith ar gyfer y prosiect.” - Rheolwr Ymgysylltu MOSTYN, Jane Matthews
"O blentyndod cynnar rydym yn deall bod tywod yn marcio amser. Mae 'First There is a Mountain' yn adeiladu ar y cysyniad hwn, gan ein gwneud yn ymwybodol o erydiad creigiau mynyddoedd dros filoedd o flynyddoedd, creigiau'n symud ar draws y Ddaear trwy esblygiad cyfandiroedd, gan ffurfio olion bysedd unigryw dros ein harfordir modern. Mae'r gwaith celf yn gwahodd pobl i arafu ac ystyried cydgysylltiad y byd, ei ddwysedd wedi'i gyfleu mewn mân-ddolennau. Cysylltu'r ynysfor trwy un dŵr, un llanw, un tywod - cario mynyddoedd o dywod dros amser. Pethau cyffredin, ym mhob man." - Katie Paterson, yr artist.
Am fwy o wybodaeth am Katie Paterson: First There is a Mountain ac y taith o gwmpas y DU, ewch i'r wefan prosiect www.firstthereisamountain.com
Booking:
Os hoffech chi gymryd rhan a helpu i greu'r cerfluniau tywod hyn ar y traeth, fel teulu, grŵp neu unigolyn, cysylltwch â [email protected] i gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle.
Neu dewch draw ar y diwrnod a gwyliwch y digwyddiad yn datblygu.